Hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i arolygoncymru.cymru/Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan DBCC. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille:
Cyswllt: Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Ebost: ymholiada@ffiniau.cymru
Ffoniwch: 02920 464819
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy e-bost a wnaed i sylw'r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn ymholiada@ffiniau.cymru.
Dylech gynnwys sgrinluniau o unrhyw faterion os yn bosibl.