Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-4337

Yn fy marn i, mae enwau’r etholaethau a gynigir braidd yn rhy hir a lletchwith. Er enghraifft, mae ‘Bangor Aberconwy Ynys Môn’ yn swnio fel clwstwr o eiriau sydd wedi eu rhoi at ei gilydd. Tybed a fyddai’n well creu enw rhanbarth ar gyfer etholaeth, sy’n adlewyrchu ei hardal? Rwyf hefyd yn meddwl y gallai enw Cymraeg yn unig ar gyfer etholaeth fod yn opsiwn gwell – byddai’n hyrwyddo’r iaith ac yn sicrhau ei bod yn haws gwahaniaethu rhwng etholaeth Senedd Cymru ac etholaeth San Steffan, a fyddai’n golygu bod gan etholiadau’r Senedd eu hunaniaeth Gymreig fwy pendant eu hunain.

O ran grwpio ardaloedd:
-byddai’n well rhoi Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion gyda’i gilydd oherwydd eu bod yn debycach i’w gilydd o ran eu cymunedau arfordirol a’u nifer fawr o siaradwyr Cymraeg.

-gallai fod yn well rhoi Gorllewin Caerdydd gyda Gogledd Caerdydd, a rhoi De Caerdydd gyda Dwyrain Caerdydd, oherwydd mae’n ymddangos bod yr ardaloedd hynny’n debycach i’w gilydd na’r ardaloedd y cynigir eu cyfuno ar hyn o bryd. Yna, gallai’r etholaethau hynny gael eu galw’n syml iawn yn Gogledd-orllewin Caerdydd a De-ddwyrain Caerdydd.

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd