Sylw DBCC-4355
I bwy bynnag a fynno wybod,
Hoffwn fynegi fy nghefnogaeth i’r etholaeth fawr ‘Bangor Aberconwy Ynys Môn’ a gynigir ar gyfer y Senedd.
Yn gyntaf, hoffwn ddatgan yn swyddogol fy mod yn credu bod y diwygiadau etholiadol cyffredinol yn annemocrataidd ac yn ddefnydd gwastrafflyd o arian trethdalwyr. Yn benodol, mae’r system rhestr gaeedig yn tanseilio’r egwyddor o bleidleisio dros gynrychiolydd unigol a enwir ac yn cyfyngu ar gyfleoedd i ymgeiswyr annibynnol sefyll mewn etholiad a chynrychioli’r ardal. At hynny, mae maint yr etholaethau, megis Bangor Aberconwy Ynys Môn, a fydd yn cynnwys ychydig dan 124,000 o etholwyr, yn achosi heriau sylweddol. Mae’n anodd i unrhyw Aelod o’r Senedd (AS) reoli gwaith achos yn effeithiol a meithrin cydberthnasau mewn etholaeth sydd mor fawr ac amrywiol. Yn ogystal, oni fyddai’n well i’r arian y bydd 36 o ASau ychwanegol yn ei gostio, sef dros £100 miliwn, gael ei wario ar ein GIG?
Wedi dweud hynny, hoffwn ganmol y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ei waith. Fel y nodwyd, dim ond ffyrdd a rheilffordd sy’n cysylltu Ynys Môn â Bangor Aberconwy. Gellir ystyried bod etholaeth Aberconwy Ynys Môn yn dilyn dwy brif ffordd: sef yr A5, y mae iddi arwyddocâd hanesyddol fel y brif ffordd o Lundain i Gaergybi, a elwir yn ‘Watling Street’, ac sydd wedi dylanwadu ar ein haneddiadau drwy gyfrwng masnach a datblygu economaidd ers dros fileniwm; a’r A55, sydd nid yn unig yn cysylltu Llandudno â Chaergybi ond sydd hefyd wedi dod yn rhan o’n hunaniaeth ranbarthol, a adlewyrchir mewn grŵp Facebook mawr a gweithgar o’r enw ‘A55’ lle mae pobl leol o Fangor Aberconwy Ynys Môn yn rhannu newyddion ac yn trafod materion lleol.
Rydym hefyd yn rhannu cyfleusterau allweddol megis Ysbyty Gwynedd, ac mae yna gysylltiadau rhwng ein heconomïau sy’n elwa o borthladd rhydd Ynys Môn a’i mentrau cynhyrchu trydan, sy’n cynnwys prosiectau ynni’r llanw, ynni gwynt, ac ynni niwclear yn y dyfodol. Mae llawer o’r trigolion yn byw ac yn gweithio ar draws Bangor Aberconwy ac Ynys Môn. Mae gan Brifysgol Bangor, sy’n gyflogwr o bwys, gampysau yn y ddinas ac ar Ynys Môn. Mae’n werth nodi hefyd mai esgobaeth Bangor yw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y ddwy ardal.
Yn ddiwylliannol mae’r tîm rygbi rhanbarthol, sef RGC (Rygbi Gogledd Cymru), yn cynrychioli’r rhanbarth sy’n cynnwys Bangor Aberconwy Ynys Môn, ond ar lefel ieuenctid mae’n rhannu’r gystadleuaeth yn ardal y Dwyrain ac yn ardal y Gorllewin, sy’n golygu bod ardaloedd Bangor Aberconwy ac Ynys Môn mewn un isranbarth.
Mae amryw gymdeithasau hanesyddol, megis Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, yn gweithredu ar draws yr ardaloedd hyn. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol yn ddigwyddiadau diwylliannol o bwys sy’n cysylltu ein cymunedau â’i gilydd. At hynny, mae Partneriaeth Arfordir Gogledd Cymru a Menter Iaith Môn yn meithrin cysylltiadau cryf ar draws Bangor Aberconwy ac Ynys Môn drwy hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymraeg.
Am y rhesymau hyn, rwyf o blaid creu Etholaeth Fawr ‘Bangor Aberconwy Ynys Môn’ ar gyfer y Senedd.
Yr eiddoch yn gywir,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.