Sylw DBCC-4365
Rwy’n bwriadu ysgrifennu’n bennaf am Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, er y bydd rhywfaint o’r isod yn berthnasol i’r lleill.
Byddai’n cymryd 2 awr i chi yrru i ben uchaf yr etholaeth hon ac yn cymryd 4 awr a 40 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn syml iawn, mae’n rhy fawr, ac ni allaf ddeall y pwynt ynglŷn â chysylltiadau ffyrdd da yn yr achos hwn. Mae’r etholaeth yn ymestyn ar draws Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, sy’n fwy trefol, ac Aberhonddu ac ardaloedd ymhellach i’r gogledd, sy’n wledig iawn. Ar ôl bod yn byw mewn mannau trefol a gwledig yn y gorffennol, rwy’n credu bod ganddynt agendâu gwleidyddol sy’n wahanol iawn i’w gilydd, ac nad yw eu grwpio’n gwneud llawer o synnwyr. Nid wyf yn hoffi’r etholaethau presennol hyd yn oed, oherwydd rwy’n credu bod cyrraedd Abertawe o Gastell-nedd yn rhy anodd i etholwyr pe baent yn dymuno mynychu cyfarfod â’u Haelod o’r Senedd.
Rwy’n teimlo y byddai’n well rhoi Dwyrain Abertawe yng Ngorllewin Abertawe a Gŵyr am resymau daearyddol, ac y dylid rhoi Castell-nedd yn Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr. Y rheswm am hynny yw bod Castell-nedd yn debyg iawn, a bod gan yr ardal gysylltiadau lleol â Llansawel a Phort Talbot. Mae ganddynt i gyd yr un cyngor, ac ni allaf ddeall y cyfiawnhad dros gael cynrychiolaeth wahanol ar eu cyfer.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.