Sylw DBCC-4372
Gomisiwn,
Mewn ymateb i’ch cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau’r Senedd, mae fy ymatebion i’r enwau a gynigir gennych i’w gweld isod.
Yng nghyd-destun adolygiad anarferol i’r Comisiwn, oherwydd y tu hwnt i greu rhanbarthau ar gyfer y Senedd mae’r math hwn o adolygiad yn brin, rwy’n deall y gellir ystyried bod yr enwau cychwynnol yn enwau dros dro. Er hynny, mae rhai ohonynt yn ymddangos fel pe baent yn gyfres o leoedd sy’n chwilio am enw cryno. Maent yn fy atgoffa o etholaethau blaenorol Lloegr ar gyfer Senedd Ewrop, a oedd yn defnyddio e.e. “Lancashire Central” yn hytrach na “Blackpool, Fylde, Preston, Blackburn, Accrington, and Burnley”.
O edrych ar y cynigion yn eu cyfanrwydd, rwy’n credu y gallai eu henwi yn arddull yr etholaethau (Enw, Enw Arall, ac Enw) achosi dryswch anfwriadol. Mae fy awgrymiadau i’n defnyddio’r gwahannod em (—) fel sy’n cael ei ddefnyddio gan senedd Canada, rwy’n credu.
Nid wyf yn siarad Cymraeg, ac fel person amatur brwdfrydig yr wyf yn cynnig awgrymiadau i chi eu hystyried. Rwyf wedi cyflwyno gwrthgynigion i gomisiynau lleol a seneddol ar gyfer amryw adolygiadau o ffiniau, sy’n mynd yn ôl bron ugain mlynedd, ac rwy’n cyfrannu pan fo’n bosibl fel rhywun sydd â diddordeb.
Yn gywir,
[REDACTED]
Awgrymiadau amgen ynghylch enwau:
1. “Bangor Aberconwy Ynys Môn”. Mae’r enw yn gyfuniad o etholaethau presennol. Nid oes angen cynnwys “Bangor” yn awr oherwydd bod “Aberconwy” yn ymdrin â Bangor/cyfleu Bangor. Awgrym: “Aberconwy—Ynys Môn”
2. “Clwyd”. Ar ôl ystyried pob enw amgen posibl, mae hwn yn enw derbyniol.
3. “Alyn and Deeside and Wrexham”. Yng nghyd-destun adolygiad cenedlaethol, mae defnyddio’r gair “and” ddwywaith yn ymddangos yn ddiangen, a gallai achosi dryswch. O gofio maint y sedd newydd a’r angen i fod yn fanwl gywir ac yn gryno, hoffwn awgrymu “Flintshire East—Wrexham” a’r enw Cymraeg cyfatebol.
4. “Dwyfor Meirionnydd, Montgomeryshire and Glyndŵr”. Yng nghyd-destun adolygiad cenedlaethol, mae’r enw hwn yn hir ac yn lletchwith. Mae’r sedd yn un enfawr ac o natur wledig yn bennaf, sy’n golygu ei bod yn anodd dod o hyd i enw heb droi’n ôl at enwau generig neu hollgynhwysol. Hoffwn awgrymu “South Gwynedd—North Powys” a’r enw Cymraeg cyfatebol.
5. “Ceredigion and Pembrokeshire”. Ar ôl ystyried pob enw amgen, rwyf o blaid yr enw hwn. Fodd bynnag, fel y byddaf yn gwneud yn gyffredinol, hoffwn awgrymu y dylid defnyddio’r gwahannod em (—) (“Ceredigion—Pembrokeshire”) er mwyn sicrhau bod digon o fwlch rhwng yr etholaethau traddodiadol a’r etholaethau rhanbarthol newydd hyn sy’n cymryd eu lle.
6. “Carmarthenshire”. Ar ôl ystyried pob enw amgen posibl, mae hwn yn enw derbyniol.
7. “Swansea West and Gower”. Ar ôl ystyried pob enw amgen posibl a gwneud un newid yn unig, sef defnyddio’r gwahannod em (“Swansea West—Gower”), mae hwn yn enw derbyniol.
8. “Brecon, Radnor, Neath and Swansea East”. Rwy’n deall bod y Comisiwn wedi cyfuno pob un o’r enwau presennol, ond mae hynny wedi creu cyfres letchwith o enwau lleoedd. Ar ôl ystyried pob enw amgen posibl, hoffwn awgrymu “South Powys—Neath” a’r enw Cymraeg cyfatebol.
9. “Aberafan Maesteg, Rhondda and Ogmore”. Yng nghyd-destun adolygiad cenedlaethol, mae’r enw hwn yn debyg i enw dros dro. Ar ôl ystyried y ffiniau, hoffwn awgrymu “Mid Glamorgan” fel enw amgen, a’r enw Cymraeg cyfatebol.
10. “Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd”. Yng nghyd-destun adolygiad cenedlaethol, mae’r enw hwn yn debyg i enw dros dro. Ar ôl ystyried y ffiniau, hoffwn awgrymu “North Glamorgan” fel enw amgen, a’r enw Cymraeg cyfatebol.
11. “Blaenau Gwent, Rhymney and Caerphilly”. Yng nghyd-destun adolygiad cenedlaethol, mae’r enw hwn yn debyg i enw dros dro. Ar ôl ystyried pob enw amgen posibl, hoffwn awgrymu “West Gwent” a’r enw Cymraeg cyfatebol.
12. “Monmouthshire and Torfaen”. Am yr un rheswm ag yn 11 uchod, hoffwn awgrymu “East Gwent” a’r enw Cymraeg cyfatebol.
13. “Newport and Islwyn”. Ar ôl ystyried pob enw amgen posibl, mae hwn yn enw derbyniol.
14. “Cardiff East and North”. Mae’r dynodiad “east and north” yn ymddangos yn ddryslyd, a gallai fod yn gamarweiniol. Mae’r etholaeth a gynigir yn cynnwys gogledd a dwyrain Caerdydd yn eu cyfanrwydd, felly mae’n ymddangos bod yr enw “Cardiff North Eastern” yn fwy priodol (cymharer â rhai o seddi presennol Senedd yr Alban, sydd hefyd yn defnyddio “Eastern” yn hytrach nag “East” yn unig).
15. “Cardiff West, South and Penarth”. Am yr un rheswm ag yn 14 uchod, mae’r etholaeth hon a gynigir yn cynnwys canol a de Caerdydd, a hoffwn awgrymu “Cardiff South Western” o ganlyniad i hynny.
16. “Vale of Glamorgan and Bridgend”. Ar ôl ystyried pob enw amgen, hoffwn awgrymu “South Glamorgan” a’r enw Cymraeg cyfatebol.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.