Sylw DBCC-4374
Annwyl gydweithwyr yn y Comisiwn Ffiniau,
Diolch am y cyfle i roi sylwadau ar gynigion y Comisiwn Ffiniau i greu 16 o etholaethau mawr i’r Senedd yng Nghymru, ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol, ar y sail bod 6 Aelod yn cynrychioli pob etholaeth a bod cyfanswm nifer Aelodau’r Senedd yn codi i 96.
Rwy’n sylweddoli nad oedd gan y Comisiwn unrhyw ran i’w chwarae yn y broses o benderfynu faint o Aelodau ddylai fod yn y Senedd, sy’n fater i’r Senedd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, hoffwn nodi nad wyf yn credu bod dadl gref a chredadwy wedi’i chyflwyno dros gynyddu nifer Aelodau’r Senedd o’r nifer bresennol, sef 60, i 96, sy’n gynnydd sylweddol. Nid wyf chwaith yn credu y bydd cael etholaethau 6 aelod yn cyfoethogi ac yn gwella llywodraeth gynrychiadol; rwy’n credu y bydd yn gwanhau’r cysylltiad hanesyddol rhwng yr Aelodau unigol a’u hetholaeth.
Fodd bynnag, dyna’r sefyllfa, ac rwy’n credu bod y Comisiwn Ffiniau wedi mabwysiadu ffordd resymegol ac ymarferol o symud ymlaen wrth gynnig 16 o etholaethau ar gyfer y Senedd ar sail ardaloedd dwy o etholaethau Senedd y DU. At ei gilydd, mae’r parau a gynigir a’r enwau a awgrymir ar gyfer yr etholaethau’n ymddangos yn briodol, ac yn cydnabod lefel dda o gysylltedd lleol ar hyd a lled Cymru. Ar lefel fwy ranbarthol, mae’n ymddangos yn briodol paru Torfaen a Sir Fynwy â’i gilydd i greu etholaeth fawr, yn lle dewis opsiynau eraill megis paru Dwyrain Casnewydd â Sir Fynwy neu baru Torfaen â Dwyrain Casnewydd.
Nodir y bwriedir i’r ffiniau hyn ar gyfer etholaethau bara am amser hir. Felly, hoffwn ofyn – os bydd yna newidiadau bach i etholaethau Senedd y DU (os bydd rhai wardiau’n symud o’r naill etholaeth i’r llall) neu os bydd yna newidiadau mawr iddynt (os bydd eu nifer yn gostwng), a fydd y rheini wedyn yn cael eu hadlewyrchu’n awtomatig yn ffiniau etholaethau Senedd Cymru, neu a fyddant yn destun proses ymgynghori newydd?
Yn ail, a yw’r Comisiwn Ffiniau yn bwriadu adolygu’r ffiniau cyn pen cyfnod penodol (er enghraifft, ar ôl dau dymor etholiad) a mesur adborth efallai ynghylch pa mor effeithiol y mae’r newidiadau wedi cael eu mabwysiadu gan y cyhoedd yn ehangach?
I grynhoi, felly, rwy’n teimlo bod y Comisiwn Ffiniau wedi mabwysiadu ffordd ymarferol a synhwyrol o benderfynu ynglŷn ag etholaethau’r Senedd ar gyfer y dyfodol, o fewn y brîff a roddwyd iddo (nifer fwy o Aelodau yn y Senedd a deddfwriaeth a oedd yn pennu proses etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol), ond byddai’n ddefnyddiol gwybod beth yw barn y Comisiwn am y ddau bwynt yr wyf wedi’u codi.
Dymuniadau gorau,
David
Y Cynghorydd David Williams
Llanyrafon
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
[REDACTED] / E-bost: [REDACTED]
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Enw sefydliad
Torfaen County Borough Council
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.