Sylw DBCC-4375
Bore da,
Cynigiaf sylwadau ar gyfer yr ymgynghoriad ar yr Etholaethau Newydd Arfaethedig os gwelwch yn dda: Provisional Recommendations (d34hss7hg6i3n.cloudfront.net).
Bangor Aberconwy Ynys Môn
Mae adran 1.2 y ddogfen ymgynghori yn nodi: "Dim ond cysylltiadau ffyrdd sydd gan etholaeth seneddol y DU Ynys Môn â’r tir mawr, drwy etholaeth seneddol y DU Bangor Aberconwy. Mae’r ddeddf yn datgan bod yn rhaid i’r Comisiwn greu etholaethau sy’n cynnwys dwy etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol."
Credaf fod y Comisiwn wedi dehongli'r ddyletswydd yma yn y Ddeddf (sef bod rhaid i'r etholaethau a gyfunir fod yn "gyffiniol") yn rhy gaeth, yn enwedig o ystyried bod yr etholaeth dan sylw yn ynys. Rwyf yn ystyried bod y Comisiwn wedi dehongli'r ddyletswydd hon i olygu bod rhaid i ffordd fawr gysylltu unrhyw ddwy etholaeth sy'n cael eu 'cyfuno'. Mae hyn, o ganlyniad, yn cyfyngu'r opsiynau sydd ar gael wrth gyfuno Ynys Môn i'r unig etholaeth sy'n cynnwys pont drosodd i'r ynys (sef etholaeth Bangor Aberconwy). Drwy ddehongli'r ddyletswydd "cyffuniol" yn ehangach, credaf y byddai gan y Comisiwn y dewis a'r rhyddid i gyfuno Ynys Môn gydag etholaeth Dwyfor Meirionnydd hefyd. Mae hon yn etholaeth sydd hefyd yn 'ffinio' Ynys Môn. Mae hon hefyd yn etholaeth sy'n gweddu llawer yn well ag Ynys Môn na Bangor Aberconwy, yn enwedig o ystyried y ffactorau statudol eraill a amlinellir yn y ddogfen.
Os na ellir cyfuno Ynys Môn ag etholaeth Dwyfor Meirionnydd, fe ddylid ystyried ail-enwi'r etholaeth i "Menai Ynys Môn" (neu enw gyffelyb sy'n defnyddio'r gair "Menai"). Byddai defnyddio'r enw "Menai" yn cyfleu'r ffaith bod yr etholaeth yn gyfuniad o'r ynys a'r tir mawr sydd wedi ei bontio gan Afon Menai.
Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam
Nid oes rheswm amlwg pam na ddylid defnyddio'r enw uniaith "Alun" fel yr argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Dylid mabwysiadu'r enw "Alun" yn yr enwau Cymraeg a Saesneg.
Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr
Dylid ailystyried cyfuno Ynys Môn gyda Dwyfor Meirionnydd, gan ystyried fy sylwadau bod y Comisiwn yn gallu cyfuno'r ddwy ardal drwy ddehongli'r gofyniad "cyffiniol" yn ehangach. Ar hyn o bryd, mae'r etholaeth hon yn llawer rhy fawr ac yn cyfuno ardaloedd nad ydynt yn cyd-fynd â'r ffactorau statudol a amlinellir yn y ddogfen (e.e. clymau lleol).
O ran yr enw, dylid ystyried yr enw "Gwynedd" yn lle "Dwyfor Meirionnydd", gan fod yr enw "Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr" yn llond ceg — bron mor enfawr â maint yr etholaeth!
Sir Gaerfyrddin
Dylid rhoi'r enw uniaith "Sir Gâr" i'r etholaeth hon. Mae'n enw adnabyddus yn y ddwy iaith ar gyfer yr ardal ac yn fyrrach na "Sir Gaerfyrddin". Byddai defnyddio "Sir Gâr" hefyd yn osgoi'r angen am enwau ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Byddai rhoi enw uniaith Gymraeg hefyd yn cyfrannu at yr egwyddor y dylid hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Byddai cael enw Saesneg (Carmarthenshire) yn gweithio'n erbyn yr egwyddor yma.
Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd
Dylid ystyried defnyddio'r sillafiad Cymraeg "Merthyr Tudful" yn y ddwy iaith. Bydd hyn yn sicrhau nad oes gwahaniaethau diangen rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r enw, yn enwedig gan mai un llythyren yn unig sy'n gwahaniaethu'r ddwy fersiwn.
Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth
Mae gosodiad y gair "De" yn lletchwith ac felly dylid ailystyried yr enw. Efallai y byddai "De a Gorllewin Caerdydd a Phenarth" neu enw tebyg yn fwy priodol.
Diolch am ystyried fy sylwadau. Hoffwn aros yn ddi-enw os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.