Sylw DBCC-4378
Mae llawer o broblemau’n perthyn i’r cynllun hwn.
1. Nid yw ffiniau etholaethau Senedd y DU yn dda iawn, felly mae’r penderfyniad i seilio etholaethau newydd Senedd Cymru arnynt yn gwaethygu’r problemau hynny.
2. Yn benodol, mae etholaeth Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn ymddangos fel pe bai rhywrai yn chwarae â’r ffiniau er eu lles eu hunain. Beth sy’n gyffredin rhwng yr hen ardaloedd diwydiant trwm o gwmpas Abertawe ac ardal wledig Aberhonddu? O ran cysylltiadau trafnidiaeth, hoffwn eich herio i yrru o Abertawe i Drefyclo heb fynd y tu allan i ffiniau’r etholaeth.
3. Yn yr un modd, mae Merthyr, Aberdâr a Phonty yn ardaloedd digon mawr i haeddu eu AS lleol eu hunain.
4. Mae gan Aberafan, Rhondda ac Ogwr gysylltiadau trafnidiaeth? Ar fap efallai, ond ceisiwch chi yrru arnynt – mae’n cymryd oriau i deithio o Dreorci i Bort Talbot, a mwy fyth o amser ar y bws neu’r trên.
5. Os y bwriad yw sicrhau mwy o gynrychiolaeth wleidyddol ar ein cyfer (96 o Aelodau’r Senedd), oni ddylem gael 96 o etholaethau er mwyn rhoi cynllun mwy lleol ar waith ar gyfer cynrychiolaeth, yn hytrach na’r cynnig hwn sy’n golygu cael ardaloedd enfawr (sy’n cynnwys mannau nad oes ganddynt fawr ddim yn gyffredin â’i gilydd) a gynrychiolir gan fwy nag un person (6)? Rhannwch bob un o’r etholaethau hyn â 6 ac ewch ati i ethol 1 AS yr un ar eu cyfer.
6. Rhaid nodi mor anodd oedd dod o hyd i’r wefan hon. Nid oedd y cyfryngau’n darparu unrhyw ddolen gyswllt â hi, mae enw’r Comisiwn yn amwys ac yn cael ei gymysgu ag enwau Comisiynau Ffiniau eraill yn y DU, mae’n ymddangos nad oes gennych eich gwefan eich hun, ac yn ôl pob golwg nid yw Google wedi clywed amdanoch. Siawns na allwch wneud yn well na hyn.
Wn i ddim a fydd eich adolygiad yn fodlon ystyried y pynciau canlynol, ond mae angen i’r Senedd eu clywed:
7. Nid oes angen rhagor o ASau arnom. Rydym yn wlad fach, ac fe wnaiff 60 y tro.
8. Rwy’n casáu’r syniad o fethu â phleidleisio dros unigolyn ac o orfod pleidleisio dros restr plaid yn unig. Mae hynny’n dileu’r gallu i etholwyr gael gwared ar ASau nas dymunir/nas hoffir/gwael ac mae’n trosglwyddo’r gallu hwnnw i beirianwaith plaid yn lle hynny, sy’n galluogi ASau gwael i barhau mewn grym, waeth beth fo ewyllys y bobl.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.