Sylw DBCC-4381
Mae’r cynnig i baru Dwyfor Meirionnydd â Maldwyn a Glyndŵr yn creu etholaeth enfawr a lletchwith.
Mae hynny o ganlyniad i’r penderfyniad i gysylltu Ynys Môn â Bangor Aberconwy oherwydd y cysylltiad ffordd uniongyrchol – sy’n golygu felly nad oedd yn bosibl cysylltu Ynys Môn â Dwyfor Meirionnydd oherwydd diffyg cysylltiad ffordd uniongyrchol. Fodd bynnag, nodir hefyd bod y posibilrwydd o baru Dwyfor Meirionnydd â Cheredigion Preseli wedi’i ystyried, er nad oes unrhyw gysylltiad ffordd uniongyrchol rhyngddynt (mae’r unig ffordd yn mynd y tu allan i’r etholaeth drwy Fachynlleth).
Gan dderbyn bod y ffordd rhwng Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd yn mynd ychydig y tu allan i’r etholaeth, mae’r cysylltiadau teithio fel arall yn parhau’n dda, a byddai paru Ynys Môn â Dwyfor Meirionnydd (awgrymir yr enw Gwynedd a Môn) yn gweithio lawn cystal â pharu Ynys Môn â Bangor Aberconwy.
Yna, byddai angen paru Bangor Aberconwy â Gogledd Clwyd (awgrymir yr enw Bro Colwyn); paru Dwyrain Clwyd ag Alun a Glannau Dyfrdwy (awgrymir yr enw Clwyd a Dyfrdwy); a pharu Wrecsam â Maldwyn a Glyndŵr (awgrymir yr enw Wrecsam a Maldwyn).
Mae pob un o’r cynigion uchod yn gweithio lawn cystal â’r cynigion gwreiddiol ond maent yn gwella ardaloedd Dwyfor Meirionnydd a Maldwyn a Glyndŵr yn sylweddol.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.