Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-4385

Mae’r cynnig i uno Dwyfor Merionnydd â Maldwyn yn creu etholaeth rhy fawr o lawer. Gyda’r dull newydd o ddidoli’r pleidleisiau, mae’n amlwg mai Plaid Cymru fyddai â’r nifer fwyaf o ymgeiswyr llwyddiannus, a byddai ymgeisydd o Faldwyn yn cael ei ethol wedyn. Mae hynny’n golygu na fyddai gan Feirionnydd fawr o obaith cael ymgeisydd lleol llwyddiannus, ac oherwydd problemau teithio ymarferol ni fyddai Meirionnydd yn cael dim sylw gan y cyrff etholedig. Byddai’n well o lawer uno ag Ynys Môn ac aros yn y gogledd yn hytrach na bod yn y canolbarth. Rwy’n siŵr y byddai’n well gan Faldwyn aros yn ardal ei chod post, sef SY, ac aros gyda Maesyfed.

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd