Sylw DBCC-4394
Rwyf yn anghytuno gydag argymhelliad presennol y comisiwn i uno etholaeth Ynys Môn gydag etholaeth Bangor Aberconwy. Yn fy marn i, byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr ymhob ffordd, ac yn sicr yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol, i uno etholaeth Ynys Môn gydag etholaeth bresennol Dwyfor Meirionnydd. Byddai hynny wedyn yn golygu y gellid uno etholaethau Bangor Aberconwy a Gogledd Clwyd - sy'n gwneud synnwyr yn ddaearyddol ac yn gymunedol - uno Dwyrain Clwyd gydag Alun a Glannau Dyfrdwy, ac uno Wrecsam gyda Maldwyn a Glyndwr.
Rwy'n derbyn mai un o egwyddorion y comisiwn oedd y dylai ffordd gysylltu'r ddwy etholaeth, ond os yw peidio gweithredu'r egwyddor yna yn arwain at ganlyniadau gwell, yna siawns fod posibl ei dileu? Ar hyn o bryd mae dwy ffordd yn arwain o Ynys Môn i'r tir mawr yn etholaeth Bangor Aberconwy, ond mae'r ddwy ffordd o fewn 5 milltir i etholaeth Dwyfor Meirionnydd - un o fewn milltir neu ddwy i ffiniau etholaeth Dwyfor Meirionnydd.
Nid yw'r argymhelliad presennol i uno etholaeth Dwyfor Meirionnydd gydag etholaeth Maldwyn Glyndwr yn gwneud synnwyr o gwbl. Mae'n etholaeth rhy fawr o lawer yn ddaearyddol ac nid oes unrhyw gysylltiad o gwbl yn gymunedol rhwng y rhan fwyaf o'r ddwy etholaeth. Byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr i uno Ynys Môn gyda Dwyfor Meirionnydd.
Rwyf felly'n awgrymu'r newidiadau canlynol wrth baru etholaethau Gogledd Cymru - 1) Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd 2) Bangor Aberconwy a Gogledd Clwyd 3) Dwyrain Clwyd ac Alun a Glannau Dyfrdwy 4) Wrecsam a Sir Drefaldwyn a Glyndwr.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.