Sylw DBCC-4416
Rwy’n teimlo y dylai etholaeth wleidyddol gynnwys cymunedau sy’n rhannu hunaniaeth. Dylai Aelod etholedig o’r Senedd gynrychioli buddiannau ei etholaeth. Sut y gall Aelod o’r Senedd gynrychioli buddiannau rhywun sy’n byw ym Mhwllheli ynghyd â buddiannau etholwr sy’n byw yn Rhiwabon? Rwy’n credu bod uno etholaethau presennol San Steffan, yr oedd rhai ohonynt yn ddadleuol yn eu rhinwedd eu hunain, yn ffordd ddiog o ymdrin â’r mater. Er enghraifft, siawns na fyddai’n well cyfuno Sir Fynwy ag ardaloedd o Dde Powys i ffurfio etholaeth â hunaniaeth wledig, yn hytrach na’i huno â Thorfaen?
Nid yw nifer y bobl sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd erioed wedi bod yn uchel. Mae’r etholaethau hyn yn debygol o wneud i etholwyr golli mwy fyth o ddiddordeb, yn enwedig yn y gogledd a’r canolbarth, a fyddai’n gwaethygu’r rhaniad rhwng y gogledd a’r de.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.