Sylw DBCC-4432
Nid yw’r ffiniau a gynigir yn rhoi ystyriaeth briodol i ranbarthau unigryw Cymru, ac maent yn creu ardaloedd mympwyol na fydd etholwyr yn teimlo unrhyw gysylltiad â nhw. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn uniaethu â’u hardal awdurdod lleol neu’u sir hanesyddol, ac rwy’n credu y byddai rhannu Cymru ar sail yr ardaloedd/siroedd hynny’n well na’i rhannu ar sail etholaethau San Steffan.
Hoffwn awgrymu’r diwygiadau canlynol:
Bangor Aberconwy, Ynys Môn, Dwyfor Meirionnydd (Gwynedd a Môn neu Ogledd-orllewin Cymru) – Mae’n gwneud mwy o synnwyr, o ran bod yn rhanbarth cyfarwydd o Gymru sy’n troi o gwmpas Eryri a lle mae canran uchel o’r etholwyr yn siarad Cymraeg.
Maldwyn a Glyndŵr ac Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe (Powys neu Ganolbarth Cymru) – Mae’n gwneud synnwyr, o ran bod yn rhanbarth cydlynus sy’n dod dan yr un awdurdod lleol, ac sydd felly’n ei gwneud yn haws i Aelodau’r Senedd ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r etholaeth.
Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd ac Aberafan Maesteg (dim awgrym am enw) – Mae’n gwneud mwy o synnwyr, o ran bod yn rhanbarth diwylliannol a hanesyddol cydlynus.
Mae’r etholaethau eraill a gynigir yn ymddangos yn opsiynau eithaf rhesymol. Mae rhai o’r enwau yn lletchwith a byddai’n well pe bai ganddynt enwau sy’n adlewyrchu nodweddion daearyddol rhanbarthol neu enwau rhanbarthol hanesyddol. Yn fy marn i, dylid ffafrio cael enwau Cymraeg yn unig, os yw hynny’n bosibl.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.