Sylw DBCC-4434
Nonsens llwyr yw paru Aberhonddu â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe, oherwydd nid oes gan y ddwy ardal ddim yn gyffredin ar wahân i ardal Cwm Tawe. Mae hynny yn ei dro’n effeithio ar lawer o seddi eraill yn y de.
Rwyf eisoes wedi cyflwyno un cynnig amgen, sef paru Aberhonddu â Chaerfyrddin, sy’n effeithio ar nifer o seddi cyfagos. Hoffwn awgrymu’r opsiwn amgen canlynol a fydd yn cael effaith ehangach:
Paru Aberhonddu â Sir Fynwy, gan alw’r sedd yn ‘Aberhonddu a Sir Fynwy’.
Mae cysylltiadau da rhwng y seddi hyn, ar hyd yr A40, ac mae’r ddwy o natur wledig ac amaethyddol yn bennaf.
Byddai hynny’n ei gwneud yn bosibl i Gastell-nedd a Dwyrain Abertawe uno ag Aberafan Maesteg, a hoffwn awgrymu ‘Castell-nedd Port Talbot’ fel enw i’r sedd neu gorau oll os ‘Gorllewin Morgannwg’ fyddai ei henw.
Dylid paru Rhondda â Phontypridd, a hoffwn awgrymu ‘Taf Rhondda’ fel enw i’r sedd neu gorau oll os ‘Canol Morgannwg’ fyddai ei henw.
Dylid paru Merthyr â Chaerffili, a hoffwn awgrymu ‘Taf Rhymni’ fel enw i’r sedd neu gorau oll os ‘Gogledd Morgannwg’ neu ‘Dwyrain Morgannwg’ fyddai ei henw.
Dylid paru Dwyrain Casnewydd â Thorfaen, a hoffwn awgrymu ‘Casnewydd Torfaen’ neu ‘Canol Gwent’ fel enw i’r sedd.
Dylid paru Casnewydd Islwyn â Blaenau Gwent, a hoffwn awgrymu ‘Casnewydd Ebwy’ neu ‘Gorllewin Gwent’ fel enw i’r sedd.
Gallai gweddill seddi’r de a’r gorllewin aros fel y maent, ond hoffwn awgrymu ‘Pen-y-bont Y Fro’ fel enw i’r sedd yn lle ‘Bro Morgannwg a Phen-y-bont’ neu gorau oll os ‘De Morgannwg’ fyddai ei henw.
Mae’r cynigion uchod i gyd yn creu seddi realistig sy’n dilyn ffiniau naturiol ac sydd â chysylltiadau trafnidiaeth a chysylltiadau diwylliannol da, ac maent yn welliant o gymharu â’r cynigion gwreiddiol.
Bydd defnyddio enwau rhanbarthol yn helpu i wahaniaethu rhwng y rhanbarthau etholiadol newydd a seddi presennol San Steffan.
Yr unig anghysondeb yn y trefniant hwn yw ardal Cwm Tawe sy’n parhau i fod ar wahân i ryw raddau. Dyna ganlyniad anffodus y penderfyniad gwael i glymu’r ardal hon wrth sedd Aberhonddu yn yr adolygiad blaenorol o seddi San Steffan, y dylid ei gywiro adeg yr adolygiad nesaf o ffiniau’r Senedd. Ond mae gadael i’r un anghysondeb hwnnw bennu’r trefniadau ar gyfer pob sedd ar draws y de yn enghraifft berffaith o sefyllfa lle mae un ardal fach yn pennu’r hyn a fydd yn digwydd ar draws ardal eang iawn.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.