Sylw DBCC-4438
Hoffwn rannu fy marn i am y cynigion.
Byddai’n rhesymol paru Dwyrain Abertawe â Chastell-nedd, ond nid oes gan yr ardal fawr ddim cysylltiadau diwylliannol na hanesyddol â Maesyfed.
Siawns na ddylid paru Maesyfed ag Aberhonddu ac efallai Maldwyn.
Mae’n anodd dychmygu, gyda 96 o aelodau, na fyddai unrhyw aelod unigol yn cynrychioli Ceredigion yn unig. Ac mae hynny’n wir hefyd am Sir Benfro. (Ac mae paru Ynys Môn ag Aberconwy yn ymddangos yn gam rhyfedd; pam na ellir rhoi iddi statws arbennig a rhoi iddi ei hetholaeth ei hun?)
Efallai mai’r ateb yw amrywio ryw ychydig nifer yr aelodau o bob etholaeth, a chreu etholaethau mwy homogenaidd, er y byddai rhai ohonynt yn fwy o faint na’r lleill.
Mae fy nghynnig i’n gwneud mwy o synnwyr o lawer, o ran bod yn homogenaidd o safbwynt hanesyddol, a dyma fe:
Abertawe a Gŵyr
Castell-nedd Port Talbot
Ogwr, Maesteg a Phen-y-bont
Sir Gaerfyrddin a Llanelli
Sir Benfro
Ceredigion
Caerdydd a Phenarth
Y Barri a’r Fro
Casnewydd a Mynwy
Ynys Môn
Dwyfor a Meirionnydd, Eryri (gan gynnwys Caernarfon a Bangor)
Aberconwy a Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos
Brycheiniog, Maesyfed a Maldwyn
Clwyd: Wrecsam, Alun a Glannau Dyfrdwy (gan gynnwys y Rhyl, Prestatyn a’r Wyddgrug)
Merthyr, Aberdâr a Chymoedd y Rhondda a Phontypridd a Chaerffili (Cymoedd Morgannwg)
Torfaen, Islwyn a Blaenau Gwent, gan gynnwys Rhymni a’r Coed-duon (Cymoedd Gwent)
Mae gan bob un o’r 16 o etholaethau gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol naturiol ac mae llif naturiol yn perthyn iddynt. Byddai mwy o aelodau gan rai ohonynt a byddai llai o aelodau gan eraill, yn seiliedig ar eu poblogaeth.
Cofion cynnes,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.