Sylw DBCC-4446
Annwyl Gomisiynwyr,
Fy mhrif sylw ynghylch y cynigion cychwynnol yw croesawu’n fawr y cyfuniad o Ddwyrain Casnewydd â Gorllewin Casnewydd ac Islwyn. Nid wyf yn meddwl mai naid yw awgrymu bod Gorllewin Casnewydd, yn adolygiad Senedd y DU, wedi dod i sefyllfa o gael ei gosod yn lletchwith mewn dwy etholaeth oherwydd bod y niferoedd yn ei gwneud yn ofynnol, tra bod rhai o’r cymdogion drwy lwc dda yn bodloni’r meini prawf. Roedd y penderfyniad ar yr achlysur hwnnw yn rhesymegol o ystyried y meini prawf, ond nid oedd y canlyniad yn ddelfrydol ar gyfer hen sedd Gorllewin Casnewydd. Mae’n braf gweld y bydd cynigion etholaeth y Senedd yn aduno dinas Casnewydd.
O ran cynigion yr etholaethau eraill, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r hyn a gynigir.
Un agwedd nad wyf yn ei deall mewn gwirionedd yw pam mai cam interim yn unig yw’r dull presennol o gysylltu dwy etholaeth Senedd y DU â’i gilydd. Mae’n fy nharo y byddai dull gweithredu o’r fath yn ffordd resymegol ymlaen yn y tymor hir o ystyried y gofyniad am 16 o etholaethau hyd nes y bydd newidiadau demograffig yn arwain at newid o 32 o seddi San Steffan. Gallai dilyn llwybr gwahanol achosi mwy o ddryswch ynghylch ffiniau gweinyddol.
Diolch am y cyfle i wneud sylwadau,
[REDACTED]
Casnewydd
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.