Sylw DBCC-4457
NID wyf yn cefnogi'r etholaethau arfaethedig am y rhesymau canlynol:
• Mae'n ymddangos bod 40% o Gymru yn cael dim ond 12 aelod o'r Senedd allan o'r 96 - ni all hynny fod yn ddemocrataidd nac yn gynrychioliadol iawn.
• Mae'r pellteroedd y byddai'n rhaid i Aelod o’r Senedd yn un o'r etholaethau mwyaf hyn deithio i ymweld â chymunedau yn llawer rhy fawr, 150km a mwy. Yn yr un modd, mae hyn yn ei gwneud hi'n amhosibl i etholwyr ymweld â chymhorthfa AS o'u dewis.
• Mae'n ddigon drwg y bydd etholwyr yn cael eu drysu ynghylch a ddylid cysylltu ag un neu bob un o 6 AS eu hetholaeth i ofyn am gymorth ynghylch mater, ac na fydd yr ASau hynny'n gwybod a yw eraill yn ymdrin â'r un mater ai peidio, heb yr her ddaearyddol – her sy'n waeth fyth oherwydd y diffyg trafnidiaeth yn yr ardaloedd gwledig mawr hynny. Rydych chi'n dweud eich hunain: "Mae'r Comisiwn o'r farn bod cael cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan hanfodol o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus." NID yw pellteroedd enfawr, hyd yn oed gyda "chlwm", yn gyfleus.
Ac yn benodol:
• Sut mae Brycheiniog a Sir Faesyfed mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â Dwyrain Abertawe neu'n debyg iddi? Ardal Bwrdd Iechyd wahanol, Sir wahanol, sefyllfa economaidd-gymdeithasol wahanol... dim tebygrwydd o gwbl. Fel y dywedwch, roedd ychwanegu Cwm Tawe i Frycheiniog a Sir Faesyfed yn ddigon dadleuol. Mae ychwanegu rhan o Abertawe yn gwbl anghydweddol.
• Rwy'n nodi eich bod wedi dweud: Mae’r Comisiwn yn credu bod cymunedau Maesteg, Pontycymer ac Ogwr yn y cymoedd yn rhannu’r un ymdeimlad o gymeriad. Mae "rhannu’r un ymdeimlad o gymeriad" wedi'i nodi fel cyfiawnhad dros uno'r ardaloedd hynny mewn un etholaeth. Gan ddefnyddio'r rhesymeg honno, NI ddylid paru Brycheiniog a Maesyfed â Dwyrain Abertawe, gan nad oes unrhyw rannu’r un ymdeimlad o gymeriad rhwng y ddwy ardal. Mae'r materion ar y naill ben i'r etholaeth arfaethedig a’r llall yn debygol o fod yn gwrthdaro â’i gilydd.
• Lle mae anghydbwysedd enfawr yn y boblogaeth ar draws yr etholaeth arfaethedig, mae'n debygol y bydd ardal y ddinas yn cymryd sylw AS, er anfantais ac esgeulustod i weddill yr etholaeth wledig iawn.
• Sut y gellir disgwyl yn rhesymol i Aelod o'r Senedd gwmpasu ardal sy'n ymestyn tua 100 km? Sut bydd eu costau teithio yn cael eu talu? Sut y gallant rannu eu hamser i ganiatáu cymaint o deithio? Bydd etholwyr yn cael llawer llai o werth gan eu ASau, y bydd eu hamser yn cael ei lyncu gan deithiau.
• Bydd rhai byrddau iechyd, e.e. Powys, yn gorfod ymdrin â llawer gormod o Aelodau’r Senedd – 6 o bob etholaeth sy'n gorgyffwrdd ag ardal y Bwrdd Iechyd. (Mae'n anffodus nad yw amlinellau ardaloedd y GIG wedi’i osod ar y map yn y ddogfen gynigion - yn arbennig gan fod iechyd yn fater datganoledig.)
• Nid yw'r etholaeth arfaethedig yn cyd-ffinio â ffiniau awdurdodau lleol/siroedd chwaith, gan bontio ardaloedd democratiaeth leol hollol wahanol.
• Byddai Maldwyn a Glyndŵr gyda Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi gwneud mwy o synnwyr – yn ôl pob golwg byddai hyn yn "amhosib" am i Gwm Tawe a Brycheiniog a Maesyfed, yn ddadleuol, gael eu paru’n flaenorol. Mae'n ymddangos bod y Senedd wedi clymu eich dwylo.
• Mae'r enw arfaethedig anhydrin ar yr etholaeth yn gliw mawr i’w anaddasrwydd fel unrhyw fath o ardal gydlynol!
Nid oedd gostwng i 16 etholaeth a orfodwyd gan y Senedd byth am wella democratiaeth leol na helpu pobl i deimlo mwy o gysylltiad â Llywodraeth Cymru, ond mae eich cynigion o ran ffiniau yn peri anawsterau ymarferol go iawn i'r ardaloedd etholaethol newydd mwyaf, a byddant yn sicr yn rhoi pobl yn yr etholaethau enfawr hynny o dan anfantais.
Rwy'n credu bod angen eu diwygio.
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.