Sylw DBCC-4460
Dyma fy sylwadau ar y syniad gwirion rydych wedi ei greu. Mae hyn cynddrwg â'r syniad 20 mya.
1. Yr enw yw ...
Enw Saesneg ....Bangor
Enw ardal Cymraeg... sef Aberconwy ac Ynys Môn...
Yn hanesyddol gallai rhywun alw rhan o'r ardal newydd hon yn Ddwyrain Gwynedd. Roedd Gwynedd unwaith yn cwmpasu Gogledd Cymru i gyd. Yn fwy diweddar roedd y ffin ym Mochdre...heddiw yn Llanfairfechan mae hi.
Ni ellir defnyddio Gwynedd i gynnwys Ynys Môn. Nid Gwynedd yw Ynys Môn. Mae hyd yn oed y rhan fwyaf o fy nghyfeiriadau post sothach yn dweud mai Gwynedd yw Ynys Môn. Nid yw hynny’n wir. Fy enw canol yw ALUN ond ni all y di-Gymraeg ynganu'r 'u' anweledig yn yr enw hwnnw felly Alan, Allan, Allen ac ati ydyw.
Ni fydd Celtiaid Ynys Môn a aned ar yr ynys neu unrhyw le arall yng Nghymru yn derbyn hyn o gwbl.
Awgrymaf ichi ymestyn amser y drafodaeth o ddiwedd y mis hwn i, wel, 10 mlynedd. Mae mis mor chwerthinllyd ag 20 mya !
Pa ffordd bynnag yr edrychwch arno nid oes unrhyw enw hanesyddol y gallech ei ddefnyddio neu ei addasu fel enw addas ar gyfer yr ardal hon. Ydw i'n gywir?
Trosglwyddwyd rhan helaeth o Wynedd i Aberconwy 24 mlynedd yn ôl i ddarparu incwm ychwanegol iddynt. Collwyd y cyfan ar gytundebau les gwirion gan Gonwy.
Hanner can mlynedd yn ôl cafodd Cyngor Bwrdeistref Arfon ei ddileu ychydig flynyddoedd ar ôl ei greu. Rhoddwyd asedau eiddo a thir i Gyngor Gwynedd. Oes yna asedau am gael eu trosglwyddo yn ôl i Fangor felly? Os felly bydd eu hangen. Efallai hefyd y dylid rhoi'r hen Goleg Technoleg ar Ffordd Ffriddoedd Bangor, sy’n gyfanswm o 25 erw, a hen Ysgol Friars gyda 4 erw o dir cyfagos, yn ôl i'r gymuned hefyd. Nid oes eu hangen ar Landrillo Menai nawr gan fod campws newydd bellach ym Mharc Menai sydd ddim ym Mangor gyda llaw. Felly, dylai'r rhodd hon o'r gorffennol y talwyd amdani gan ein cyndeidiau sydd bellach wedi marw gael ei rhoi yn ôl, os gwelwch yn dda!
Gan droi yn ôl at yr enw newydd...
Gallai rhywun gyfuno llythrennau o bob enw...
h.y. BA AC YM neu AC BA YO
Syniad diffygiol o’r cychwyn, tybiaf i.
Gallem ddefnyddio cyfenwau aelodau'r Cynulliad...neu Gymry enwog...
DRAKEFORD
GETHING
DYLAN
RHYS
Hmmmm...ddim yn gweithio, nad ydy?
Mae'n rhaid bod iddo gysylltiad hanesyddol sy'n gysylltiedig â chymunedau'r gorffennol neu leoedd daearyddol adnabyddus o fewn y deyrnas neu'r sir neu'r cantref newydd hwn.
Yn ystod ail ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys Môn ac ychydig ddyddiau cyn iddynt lanio’n amffibaidd ar draws y Fenai fe wnaethant ladd cymuned Dinorwig.. un gaer ddinesig a oedd yn perthyn i lwyth yr Ordoficiaid a reolai’r rhan honno o Ogledd Cymru yr holl ffordd i lawr yr hen A5 ... Roedd Ynys Môn yn lle ar ei phen ei hun bryd hynny hefyd. Bryd hynny roedd pobl o bob rhan o Ewrop, a oedd wedi ffoi rhag y Rhufeiniaid, yn byw yno. Teimla rhai haneswyr mai bwriad yr ymosodiad hwn ar Ynys Môn oedd cael ychydig o lengoedd Rhufeinig profiadol allan o ardal Buddug yn ne Lloegr heddiw ond tiroedd Celtaidd bryd hynny er mwyn caniatáu iddi hi a'i milwyr ladd y Rhufeiniaid. Bu bron i'r cynllun weithio ond, mae yna wastad 'ond' mewn hanes.
Roedd y Rhufeiniaid wedi methu â gwerthfawrogi grym y bobl leol bryd hynny, fel y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
Mae angen i chi siarad â'r bobl sy'n byw yma yn gyntaf a chael eu mewnbwn hwy neu fe fydd hi'n foment 'ond' i chi hefyd yn enwedig pan fydd y llywodraeth yn Llundain yn cynhyrfu gweddill y gymuned Brydeinig.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.