Sylw DBCC-4471
Hoffwn roi rhai sylwadau cryno ynghylch y cynnig ymgynghori a gyhoeddwyd ddoe. Nid wyf yn gwneud hynny fel aelod o unrhyw blaid wleidyddol ond fel rhywun sydd wedi byw, gweithio a theithio ar hyd a lled Cymru dros nifer o flynyddoedd.
Yn amlwg mae gennych dasg anodd ond rwy'n meddwl ar y cyfan eu bod yn gynigion rhesymol gan gynnwys ar gyfer y pedair etholaeth yng Nghaerdydd. Yn amlwg yr ardaloedd gwledig fydd yn achosi’r problemau mwyaf ichi, yn enwedig yn y Canolbarth.
Mae'n debyg mai'r allwedd yw gefeillio Bangor Aberconwy gydag Ynys Môn. Gan fod yr unig ddwy bont o'r ynys yn diweddu yn ardal Bangor, mae’n ymddangos mai ychydig o ddewis sydd genych yn y mater. Unwaith y caiff hyn ei dderbyn, yna mae gweddill gogledd Cymru (i'r dwyrain o Landudno) yn disgyn i'w lle yn weddol daclus.
Mae etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn amlwg wedi bod yn destun cryn dipyn o ystyriaeth i chi. Diolch am gyfaddef eich bod wedi ystyried opsiwn arall - gefeillio hon gyda Cheredigion ac ati a Maldwyn Glyndŵr gyda Brycheiniog Maesyfed ac ati. Rydych yn dweud y byddai'r ddwy wedi bod yn etholaethau mawr iawn. Byddai hyn yn amlwg wedi bod yn wir ond mae opsiwn arfaethedig Dwyfor Meirionnydd a Maldwyn Glyndŵr hefyd yn etholaeth enfawr ac yn brin o gydlyniant cymunedol yn fy marn i. Nid yw cysylltu Aberdaron â'r Ystog ar hyd y ffin â Lloegr, er enghraifft, yn gwneud fawr o synnwyr yn fy marn i.
Mae diwylliant a defnydd uchel o'r Gymraeg yn ffactor allweddol. O gymryd hyn i ystyriaeth ynghyd â materion economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys pwysigrwydd twristiaeth a chanran yr ail gartrefi, mae Dwyfor Meirionnydd yn cyd-fynd yn llawer gwell â Cheredigion ac ati.
Mae’r A487 brysur o Ddolgellau i lawr i Ogledd Sir Benfro, yr holl ffordd ar hyd Bae Ceredigion, yn gyswllt pwysig.
Ar y llaw arall, dylai diwylliant unigryw y gororau a’r defnydd isel o’r Gymraeg ym Mhowys fod yn ffactor allweddol hefyd. Mae cynnal un etholaeth o fewn ardal Cyngor Sir ac Awdurdod Iechyd Powys yn amlwg yn ddymunol yn enwedig gan fod rhai trigolion yn derbyn rhai gwasanaethau meddygol dros y ffin. Er eu bod dros gryn bellter, mae cysylltiadau ffordd da o fewn Powys - A483 Llanfair-ym-Muallt i'r gogledd i ardal Glyndŵr ac wrth gwrs mae'r A470 yn rhedeg i'r de o ardal Llanbrynmair heibio i Aberhonddu i Gaerdydd. Felly teimlaf y byddai gefeillio Maldwyn Glyndŵr â Brycheiniog Maesyfed yn ffit llawer mwy naturiol.
Gobeithio y byddwch felly, yn barchus, yn ystyried eto eich opsiwn gwreiddiol o efeillio Dwyfor ac ati gyda Cheredigion ac ati a Maldwyn ac ati gydag Aberhonddu ac ati.
Rwy’n gwerthfawrogi y bydd hyn hefyd yn golygu ailystyried eich cynigion ar gyfer de-orllewin Cymru ond byddai hyn yn rhoi’r cyfle i gadw dwy etholaeth Abertawe gyda’i gilydd, rhywbeth yr wyf yn amau y byddai’n cael ei groesawu yn y Ddinas.
Gobeithiaf fod hyn o gymorth. Gofynnaf i chi fy rhoi ar eich rhestr bostio i gael diweddariadau drwy e-bost.
Diolch yn fawr
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.