Sylw DBCC-4472
Annwyl Gomisiynwyr,
Ar ran aelodau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME) Llafur Cymru, hoffwn ddarparu ein hymateb i Gynigion Cychwynnol Arolwg 2026 o Etholaethau’r Senedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gymunedau allweddol yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, a Wrecsam.
Rydym yn canmol y Comisiwn am y dull manwl a meddylgar o fynd ati i adlinio’r etholaethau. Mae’r agweddau canlynol ar y cynigion yn adlewyrchu newidiadau cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â phryderon hirsefydlog ynghylch cynrychiolaeth ethnig leiafrifol:
Agweddau Cadarnhaol Allweddol:
Casnewydd ac Islwyn (Newport and Islwyn):
Rydym yn falch o weld Casnewydd yn uno o dan un etholaeth y Senedd. Mae gan Gasnewydd un o'r crynodiadau uchaf o gymunedau BAME, gyda phoblogaethau sylweddol o dreftadaeth De Asiaidd ac Arabaidd. Drwy gadw’r cymunedau hyn gyda’i gilydd mewn un etholaeth, gall Aelodau o’r Senedd barhau i wasanaethu’r poblogaethau amrywiol hyn yn effeithiol a chefnogi cynrychiolaeth ethnig leiafrifol.
Dwyrain a Gogledd Caerdydd (Cardiff East and North):
Bydd cyfuno Dwyrain a Gogledd Caerdydd yn uno cymdogaethau â phoblogaethau BAME sylweddol. Gan gofio mai Caerdydd sydd â’r crynodiad uchaf o gymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, mae’r etholaeth hon yn cynnig cynrychiolaeth fwy cydlynol i’r grwpiau amrywiol hyn, gan sicrhau bod eu hanghenion a’u lleisiau’n cael eu clywed yn y Senedd.
Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam (Alyn, Deeside and Wrexham):
Mae cyfuno Wrecsam gydag Alun a Glannau Dyfrdwy yn welliant sylweddol arall. Mae Wrecsam yn gartref i boblogaeth ethnig leiafrifol gynyddol, gan gynnwys cymunedau o Ddwyrain Ewrop a chymunedau Asiaidd. Bydd y cynnig yn hwyluso gwell ymgysylltiad a chynrychiolaeth ar gyfer y grwpiau hyn.
Gorllewin Abertawe a Gŵyr (Swansea West and Gower):
Mae etholaeth arfaethedig Gorllewin Abertawe a Gŵyr yn creu cysylltiad clir rhwng dwy ardal allweddol lle mae llawer o grwpiau ffydd, diwylliannol ac ethnig leiafrifol yn byw. Mae’r cymunedau hyn yn gyfranwyr hanfodol i hunaniaeth Abertawe, ac mae’r etholaeth gydlynol hon yn caniatáu cynrychiolaeth a chefnogaeth barhaus.
Fel preswylydd yn Abertawe, rwy’n credu’n gryf ac yn argymell y dylai etholaeth arfaethedig Gorllewin Abertawe a Gŵyr gael ei hailenwi’n naill ai:
• Canol Abertawe a Gŵyr, neu
• Abertawe a Gŵyr.
Mae’r argymhelliad hwn yn seiliedig ar nifer o ystyriaethau pwysig:
Adlewyrchiad o Newidiadau Demograffig:
Yn ystod y newidiadau diweddar i ffiniau seneddol, unwyd dwy ran o dair o Ddwyrain Abertawe â Gorllewin Abertawe. O ganlyniad, nid yw ffin bresennol Gorllewin Abertawe bellach yn adlewyrchu'n gywir yr ardaloedd penodol yn y ddinas. Byddai ailenwi’r etholaeth yn Canol Abertawe yn dal ardaloedd cyfunol Dwyrain a Gorllewin Abertawe yn well, gan adlewyrchu’r ddemograffeg ehangach y mae’r etholaeth yn ei chwmpasu bellach. Fel arall, byddai defnyddio Abertawe a Gŵyr yn unig yn darparu enw clir a chynhwysol sy'n adlewyrchu'r ddinas gyfan a'r ardal gyfagos.
Osgoi Dryswch:
Nid yw defnyddio'r enw Gorllewin Abertawe bellach yn cynrychioli cyfansoddiad yr etholaeth newydd yn gywir a gallai arwain at ddryswch ymhlith trigolion a rhanddeiliaid. Byddai enw fel Canol Abertawe neu Abertawe a Gŵyr nid yn unig yn egluro cwmpas daearyddol yr etholaeth ond byddai hefyd yn cyd-fynd â dealltwriaeth y cyhoedd o'r newidiadau, gan sicrhau cyfathrebu clir rhwng cynrychiolwyr etholedig a'u hetholwyr.
Cydweddu â Hunaniaeth Leol:
Mae Abertawe yn ddinas ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth, ac mae ei hardal ganolog yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau trigolion o bob cefndir, gan gynnwys y rhai o gymunedau ethnig leiafrifol. Byddai enw mwy cynhwysol fel Canol Abertawe a Gŵyr neu Abertawe a Gŵyr yn adlewyrchu cymeriad a chydlyniant y ddinas a’i chymunedau cyfagos yn well.
Wrth wneud yr argymhelliad hwn, credaf fod gan y Comisiwn gyfle i sicrhau bod enw’r etholaeth newydd yn adlewyrchu ei realiti daearyddol a hunaniaeth ei thrigolion amrywiol.
Pryderon a Chyfleoedd ar gyfer Gwelliant Pellach:
Er bod y newidiadau arfaethedig hyn yn gadarnhaol ar y cyfan, mae meysydd allweddol lle mae angen ystyriaeth bellach i sicrhau bod y broses o ail-lunio ffiniau yn adlewyrchu’n llawn bwysigrwydd cynrychiolaeth BAME yn y Senedd.
Cynrychiolaeth Gyfrannol:
Er bod yr etholaethau hyn yn gartref i boblogaethau ethnig leiafrifol mawr, rydym yn pryderu bod tangynrychiolaeth yn parhau. Mae angen ymdrechion ar y cyd gan bleidiau gwleidyddol, gan gynnwys Llafur Cymru, i flaenoriaethu ymgeiswyr BAME mewn seddi y gellir eu hennill yn yr etholaethau newydd hyn. Mae'r ffiniau yn rhoi'r cyfle; yn awr mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ymgeiswyr BAME fynediad at y cyfleoedd hyn.
Cydlyniant Cymunedol:
Wrth ichi symud ymlaen â’r broses ymgynghori, gofynnwn i’r Comisiwn barhau i ystyried pwysigrwydd cynnal cydlyniant cymunedol o fewn etholaethau. Mae cymunedau BAME, yn enwedig mewn ardaloedd fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yn ffynnu pan gânt eu cynrychioli ar y cyd. Dylai unrhyw newidiadau pellach i ffiniau ystyried hyn.
Syniadau Terfynol:
Gwerthfawrogwn y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a chymeradwywn y Comisiwn am ei waith ar greu cynrychiolaeth decach ar gyfer cymunedau amrywiol Cymru. Gobeithiwn y bydd pleidiau gwleidyddol a’r Senedd yn defnyddio’r cyfle hwn i hybu nodau cynwysoldeb ac amrywiaeth mewn arweinyddiaeth. Mae’r etholaethau newydd hyn, yn enwedig y rhai sydd â phoblogaethau BAME sylweddol, yn cynnig llwybr clir i wella cynrychiolaeth yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2030 Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r broses hon ac yn parhau i fod yn agored i ddeialog bellach wrth i'r adolygiad fynd rhagddo.
Yn gywir,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.