Sylw DBCC-4473
Annwyl Gomisiynwyr,
Rydym yn ysgrifennu ar ran Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti, Clwb Ieuenctid Sgeti, a Lolfa De Sgeti (Clwb 50+ Oed) i argymell yn gryf ailenwi etholaeth arfaethedig Gorllewin Abertawe a Gŵyr i Canol Abertawe a Gŵyr neu Abertawe a Gŵyr.
Fel yr unig sefydliad Mwslimaidd ar ffin Gŵyr, mae ein cymuned yn rhychwantu Gorllewin Abertawe a Gŵyr. Rydym yn cynrychioli dros 800 o aelodau o'r gymuned Fwslimaidd, ac mae tua thraean ohonynt wedi'u lleoli yng Ngŵyr a dwy ran o dair yng Ngorllewin Abertawe. Mae'r aelodau hyn yn dibynnu arnom ni am gyllid, ymgynghori, gwaith achos, cymorth, cwnsela lles, a gwasanaethau priodas, angladdau ac eiriolaeth.
Rhesymau Allweddol dros Ailenwi'r Etholaeth:
1. Cynrychiolaeth Well i’n Cymuned: Drwy gyfuno Gorllewin Abertawe a Gŵyr yn un etholaeth dan enw mwy cydlynol fel Canol Abertawe a Gŵyr neu Abertawe a Gŵyr, bydd yn caniatáu inni weithio'n agosach gydag aelodau ein cymuned. Nid yw'r enw presennol yn adlewyrchu'n llawn wasgariad daearyddol y boblogaeth, na'r cysylltiad hanfodol rhwng y ddwy ardal yma.
2. Mwy o Fynediad at Gyllid a Chymorth: Mae llawer o'n haelodau — yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â Lolfa De Sgeti, lle mae 85% o'r cyfranogwyr yn 50+ oed — wedi'u lleoli yng Ngŵyr. Drwy uno'r ardaloedd hyn, gallwn symleiddio ein hymdrechion i sicrhau cyllid a gwasanaethau cymorth angenrheidiol i'r unigolion hyn, y mae eu hangen am adnoddau a chymorth wedi'u targedu yn fawr.
3. Sicrhau Eglurder a Lleihau Dryswch: Byddai'r enw Canol Abertawe a Gŵyr neu Abertawe a Gŵyr yn adlewyrchu realiti demograffig ein cymuned yn well ac yn atal dryswch. Bydd yr eglurder hwn yn helpu o ran allgymorth cymunedol, ceisiadau am gyllid, a darparu gwasanaethau, gan sicrhau bod poblogaethau trefol a gwledig yn cael eu cynrychioli o dan un etholaeth unedig.
Fel sefydliadau sy'n gwasanaethu'r boblogaeth amrywiol a deinamig hon, credwn yn gryf fod ailenwi'r etholaeth yn hanfodol i wella gwasanaethau eiriolaeth a chymorth i'n haelodau, yn enwedig ar gyfer yr henoed a grwpiau bregus sy'n dibynnu'n helaeth ar ein gwasanaethau.
Rydym yn gwerthfawrogi ystyriaeth y Comisiwn o'n hargymhelliad ac yn croesawu unrhyw ymgysylltiad pellach i drafod sut y gall y newid arfaethedig hwn wasanaethu ein cymuned orau.
Yn gywir,
Rheolwyr ac Ymddiriedolwyr
Ar ran Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti,
Clwb Ieuenctid Sgeti, a Lolfa De Sgeti (Clwb 50+ oed)
Heol Parc Sgeti, Sgeti
Abertawe – SA2 9AS
www.skettymosque.org
info@skettymosque.org
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Sketty Mosque
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.