Sylw DBCC-4618
Carwn fel Cynghorydd Sir ym Maldwyn yn gyntaf gadarnhau fy nghefnogaeth i'r awgrym o efeillio Meirionnydd a Dwyfor efo Maldwyn a Glyndwr. Mae nifer o resymau o blaid hyn gan gynnwys:
• hanes hir diwylliannol ee mae Eisteddfod Powys yn symud yn flynyddol ac yn cynnwys Bala a Corwen ynghyd a Maldwyn a Rhos oddi fewn y dalgylch
• mae Cymdeithas Defaid Mynydd yn un Maldwyn a Meirion
• Mae ffermwyr Gogledd Maldwyn yn mynd i farchnad Dolgellau pob Gwener
• yr un cwmni cydweithredol amaethyddol sy efo marchnadoedd Machynlleth Dolgellau a Bala
• mae rhai ar y ffin yn Nyffryn Dyfi yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y naill ochr y ffin Powys/Gwynedd
• mae rhai o ardaloedd ee Llanbrynmair yn mynd i Borthmadog i neud siopa mawr
• yr un yw'r heriau gwledig yn y ddwy ardal
• wrth gwrs mae hanes Owain Glyndwr yn uno Glyndyfrdwy a Corwen efo Machynlleth Sycharth a Llansilin
• does dim byd yn gyffredin efo Maldwyn a Wrecsam
Yr unig awgrym sy gen i ydy hwyluso yr enw i'r ardal newydd i - Gwynedd a Gogledd Powys
Byddai hyn hefyd yn eich helpu wrth ystyried yr enw ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Maesyfed......... Awgrymaf dylid defnyddio De Powys. Cwm Nedd a Tawe
Yn gywir
Cyng Elwyn Vaughan
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Enw sefydliad
Sketty Mosque
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.