Sylw DBCC-4663
Credaf mai’r mater allweddol ynghylch y cynigion presennol yw paru Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, gyda Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd. Nid yn unig y mae hon yn fawr iawn, y mae hefyd yn cynnwys cymunedau arwahanol, digyswllt, trefol, maestrefol a gwledig. Mae hefyd yn croesi dros dair ardal awdurdod lleol, a dwy ardal bwrdd iechyd. Byddwn i’n mynd i'r afael â hyn, a byddai parau eraill o reidrwydd yn deillio o'r newidiadau hyn.
Y parau y byddwn yn eu hargymell yw:
1. Ynys Môn a Bangor Aberconwy (rwy’n hoffi Eryri a Môn fel enw ar hon)
2. Gogledd Clwyd a Dwyrain Clwyd (i'w galw'n Clwyd)
3. Alun a Glannau Dyfrdwy a Wrecsam (yn syml, byddwn i'n galw hyn yn Lannau Dyfrdwy neu Ddyffryn Dyfrdwy)
4. Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli (byddwn yn galw hyn yn Fae Ceredigion neu Cardigan Bay)
5. Sir Drefaldwyn a Glyndŵr ac Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe (Gallai hon gael ei galw’n Bowys)
6. Canolbarth a De Sir Benfro a Chaerfyrddin (De Dyfed)
7. Llanelli a Gŵyr (Llwchwr)
8. Gorllewin Abertawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe (Galwch hyn yn Abertawe)
9. Aberafan Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr (Afan ac Ogwr fyddwn i’n galw hyn)
10. Bro Morgannwg a Phontypridd (Taf Bro Morgannwg fyddwn i'n galw hyn)
11. Rhondda ac Ogwr a Merthyr Tudful ac Aberdâr (Y Cymoedd fyddwn i'n eu galw)
12. Blaenau Gwent a Rhymni a Chaerffili (byddwn yn galw hyn yn Rhymni, Sirhywi ac Ebwy)
13. Sir Fynwy a Thorfaen (Sir Fynwy a Thorfaen fyddwn i’n galw hyn)
14. Gorllewin Casnewydd ac Islwyn a Dwyrain Casnewydd (Casnewydd fyddwn i'n galw hyn)
15. Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd (Gogledd-ddwyrain Caerdydd fyddwn i'n galw hyn)
16. Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth (De-orllewin Caerdydd fyddwn i'n galw hyn)
Er fy mod yn cydnabod bod Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi’i fandadu i ffurfio 16 o Etholaethau’r Senedd ar sail paru’r 32 o Etholaethau San Steffan, credaf fod hwn yn ddull llai na delfrydol, a byddai’n well o lawer gen i inni ddechrau o’r dechrau i greu etholaethau newydd sy’n seiliedig ar gymunedau go iawn. Gobeithiaf y bydd cyfle i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn mewn adolygiadau ffiniau yn y dyfodol.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.