Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-5015

Bydd uno Ceredigion a Sir Benfro i greu un etholaeth yn creu endid enfawr ac anymarferol. Yn hanesyddol, mae hyn wedi cael ei wneud o'r blaen drwy gyfuno Sir Benfro, Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin i fod yn sir Dyfed rhwng 1974 a 1996. Ni pharhaodd hyn gan nad oedd yn ateb ymarferol! Roeddwn i’n breswylydd yma cyn yr holl ddatblygiadau hynny ac yn ystod y datblygiadau a dyma ni eto yn cynnig creu anghenfil arall o'r fath. Mae hunaniaeth a nodweddion Sir Benfro a Cheredigion yn eithaf gwahanol ac mae angen iddynt aros ar wahân ac yn unigryw yn hytrach na chael eu bwndelu gyda’i gilydd dim ond am eu bod nesaf at ei gilydd.
Ar bwynt arall, os yw hyn yn digwydd, mae'n siŵr mai'r enw newydd y dylid ei roi yw Ceredigion a Sir Benfro yn Gymraeg a Cardiganshire a Pembrokeshire yn Saesneg.
Mewn cyfnod o anhawster ariannol, rwy'n gweld yr ad-drefnu fel gwariant diangen ac nid wyf yn cytuno y dylid ei gychwyn.
Nodwch os gwelwch yn dda fod defnyddio llenwi awtomatig ar gyfer fy nghyfeiriad isod wedi nodi sir Dyfed! Felly rwy'n teimlo bod hyn yn cefnogi fy nadl yn erbyn unrhyw newidiadau pellach i ffiniau etholaethau gan fod enw sir flaenorol sydd bellach wedi dod i ben yn dal i ymddangos!

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd