Sylw DBCC-5252
Mae ardal Powys yn chwerthinllyd o fawr. Mae rhai yn amcangyfrif y byddai’n cymryd 2 awr i groesi’r sir. O ystyried ardaloedd 20mya, rwy’n awgrymu bod 3.5 awr yn fwy realistig. Sut mae disgwyl i unrhyw un fynychu cyfarfodydd yn ystod y diwrnod gwaith? O ystyried sefyllfa darpariaeth band eang mewn ardaloedd gwledig, byddai cyfarfodydd zoom yn annibynadwy.
Ble fyddai'r pencadlys?
Rwy'n byw yng Ngheredigion. Mae swyddfeydd y cyngor sir yn Aberystwyth ac Aberaeron, ac mae’n gallu cymryd 45 munud a mwy i deithio rhyngddynt, ac maent 20 milltir ar wahân ac ar gefnffordd yr A487. Mae teithio yng nghefn gwlad Cymru wedi bod yn fater sydd wedi'i esgeuluso ers amser maith. Mae pellter yn cael ei fesur yn yr oriau sydd eu hangen i gyrraedd yno, nid y pellter mewn milltiroedd.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.