Sylw DBCC-6864
Mae'n ymddangos bod ardaloedd gwledig, Powys yn benodol, wedi'u cynnwys fel rhan o ardaloedd llawer mwy (yn seiliedig ar y boblogaeth dan sylw?). Fodd bynnag, ar gyfer hanner isaf Powys (Aberhonddu a Maesyfed), mae anghenion ardaloedd gwledig yr ardal yn mynd i gael eu llethu gan y boblogaeth fwy sy'n byw yng Nghastell-nedd ac Abertawe.
Mae'r hanner uchaf - Maldwyn - mewn etholaeth arfaethedig sy'n cwmpasu ardal mor helaeth fel nad oes un gwleidydd byth yn mynd i allu deall anghenion cymaint o gymunedau gwasgaredig, na’u gwasanaethu'n effeithiol. Bydd y cynllun hwn ond yn gwaethygu'r rhaniad gwledig / trefol - ein fersiwn Gymreig o'r rhaniad rhwng y gogledd a'r de yn Lloegr. Mae angen deall bod ardaloedd mwy gwledig, sydd â phoblogaeth lai dwys, yn dal i fod angen cynrychiolaeth effeithiol. Mae trigolion gwledig yn cael eu gwthio i’r ymylon.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.