Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-6949

Mae dwy etholaeth yn llawer rhy fawr, ac a dweud y gwir, ychydig yn od. Y cyntaf o'r rheiny yw Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr. Mae'n enfawr. Yn bersonol, rwy'n credu y byddai'n well cyfuno Dwyfor Meirionnydd ag Ynys Môn. Mae’n wir nad oes cysylltiad ffordd rhwng y ddwy etholaeth hyn, ond dwi o'r farn bod llawer mwy yn gyffredin rhyngddynt yn ddiwylliannol. Byddwn wedyn yn cyfuno Wrecsam â Sir Drefaldwyn sydd, yn fy marn i, yn gyfuniad llawer mwy priodol. Byddwn wedyn yn cysylltu Bangor Aberconwy gyda Gogledd Clwyd, a dwyrain Clwyd gydag Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae gan bob un o'r rhain gysylltiadau trafnidiaeth ac maent yn ymddangos yn briodol i mi.
Yr ail etholaeth sydd gen i broblem fawr gyda hi yw ‘Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe'. Mae hon yn etholaeth enfawr ac yn cysylltu ardal wledig fawr ag ardal drefol iawn. Yn fy marn i, nid oes llawer o debygrwydd rhyngddynt. Felly, rwy'n credu y byddai'n gwneud mwy o synnwyr i gyfuno Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd ag Aberafan Maesteg gan eu bod yn llawer tebycach. O ran Aberhonddu a Maesyfed, rwy'n credu y dylid ei chysylltu â Merthyr Tudful ac Aberdâr oherwydd eu bod mor agos. Yna gellid cysylltu'r Rhondda ac Ogwr â Phontypridd.

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd