Sylw DBCC-7001
Rwy'n credu bod Comisiwn Democratiaeth Ffiniau Cymru (y Comisiwn) wedi cynhyrchu cyfuniad cystal â phosib o etholaethau ar y telerau y cafodd ei gomisiynu i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, o ystyried bod y rhain yn debygol o fod yn 'etholaethau mawr' untro, fy marn bersonol yw nad oes digon o hyblygrwydd i wneud dadl eang yn werth chweil.
Fodd bynnag, rwy'n credu y dylid cael sgwrs am y dull enwi a'r strategaeth ehangach o ran etholiadau Cymru yn y dyfodol (sydd y tu hwnt i gwmpas y Comisiwn yn dechnegol ond rwy'n credu fod y pwnc yn haeddu trafodaeth).
Dyma'r ffiniau etholiadol cyntaf a grëwyd yng Nghymru i Gymru. Mae hynny'n eithaf hanesyddol yn fy marn i. O ganlyniad, mae'n rhaid i ni feddwl nid yn unig am yr hyn y mae hyn yn ei olygu ar gyfer y presennol ond hefyd ar gyfer dyfodol Cymru, waeth beth yw cyd-destun y DU. Rydym yn ystyried sut rydym *ni * yn cyfeirio at * ein hunain* ac *ein* dyfodol. Yn hyn o beth, hoffwn gynnig dau gysyniad i'w trafod yng nghyd-destun dull enwi:
Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod 'etholaethau' yn derm cymwys ar gyfer yr ardaloedd hyn. Mae'r cysyniad hirsefydlog o etholaeth ym Mhrydain yn ardal gymharol fach gydag un Aelod etholaethol. Mae'r rhain yn ardaloedd mawr gyda sawl Aelod Seneddol, y mae gennym gynsail ar eu cyfer eisoes ac y cyfeirir atynt yn glir yn system bleidleisio bresennol y Senedd fel 'rhanbarthau' ac rwy'n credu bod rhanbarthau yn well term ar eu cyfer.
Yn ail, rwy'n credu bod yna ddwy agwedd ar y broses o enwi’r rhanbarthau hyn – un sy’n berthnasol rŵan ac un a fydd yn berthnasol yn y dyfodol. Os ydym yn torri'r cysylltiad yn llwyr ag etholaethau Senedd y DU – sy’n briodol yn fy marn i ar gyfer eglurder, dealltwriaeth a gwahaniaethu – yna mae'n hanfodol bod y boblogaeth ranbarthol *yn cydnabod* yr enw newydd. Bydd enwau rhanbarthol anghyfarwydd, aneglur, a hollol newydd yn anghyfarwydd i'r boblogaeth eang sy'n byw yno. Mae hyn yn ddrwg o ran dealltwriaeth, ymgyrchu, ac ymdeimlad o berthyn ar ran yr etholwyr. Felly beth yw'r ateb gorau? O'm safbwynt i, yr ateb rhesymegol yw defnyddio cof diwylliannol rhanbarthol fel sydd wedi ei wneud gyda’r awgrym ar gyfer 'Clwyd'. Gall y setliad llywodraeth leol ôl-1974 gynnig llawer yma oherwydd ei fod yn 1) rhanbarthol 2) wedi parhau (trwy blismona fel Dyfed-Powys, siroedd wedi’u cadw, criced Morgannwg etc) a 3) yn gyfarwydd i lawer o'r boblogaeth (er yn llai cyfarwydd wrth gwrs i'r genhedlaeth ôl-1996). Felly, byddwn yn awgrymu bod y Comisiwn yn ystyried manteisio ar y wybodaeth gyfredol hon sydd gan y boblogaeth i wneud y newid mor berthnasol a chydlynol â phosibl i boblogaeth sydd *hefyd* yn gorfod mynd i'r afael â system bleidleisio hollol newydd ar gyfer etholiadau cenedlaethol ar yr un pryd.
Fel bonws ychwanegol, mae cyfle hefyd i osod sylfaen ar gyfer ystyriaethau yn y dyfodol gan y comisiynau ffiniau o ran ceisio sicrhau cymaint o gydffinioldeb â llywodraeth leol yng Nghymru, yn enwedig os bydd llywodraethau lleol yn rhanbartholi ar ryw adeg, fel sy'n edrych yn debygol.
Rwy'n atodi map gydag awgrymiadau ar gyfer enwau amgen yn seiliedig ar y rhesymeg hon. Nid yw'n cyd-fynd yn union â'ch gofynion dymunol ar gyfer symlrwydd ond credaf fod y bonws o ran enwau cyfarwydd yn gorbwyso'r gofyniad hwnnw.
Pob lwc i chi gyd gyda gwaith mor galed!
Cynigion Cychwynnol
1- Gwynedd-Môn
2- Clwyd
3- Y Gororau
4- Gwynedd-Powys
5- Gogledd Dyfed
6- De Dyfed
7- Gŵyr-Tawe
8- Powys-Tawe
9- Gorllewin Morgannwg
10- Gogledd Morgannwg
11- Dwyrain Morgannwg
12- Dwyrain Gwent
13- De Gwent
14- Dwyrain y Brifddinas
15- Gorllewin y Brifddinas
16- De Morgannwg
Dogfennau ategol
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.