Sylw DBCC-7005
Dw i ddim yn cytuno a pharu Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd.
Credaf ei bod hi'n gwneud mwy o synnwyr i baru Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd. Er bod yr Afon Taf yn ffin ddaearyddol amlwg nid yw'n adlewyrchu sut y mae cymdeithas(au) yn cysylltu (neu beidio) y dyddiau hyn. Credaf fod llawer mwy o debygrwydd cymdeithasol o ran cydweithio, cysylltiadau teuluol a chyfathrebu rhwng y Gorllewin a'r Gogledd na sydd rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain. Un enghraifft amlwg o'r tebygrwydd diwylliannol yw'r iaith Gymraeg. Pwerdy Caerdydd o ran siaradwyr Cymraeg yw ardaloedd gogleddol Gorllewin Caerdydd ac ardal ogleddol Gogledd Caerdydd. Felly byddai'n cynrychiolwyr yn y Senedd â llawer o fantais pe tawn nhw'n gallu siarad dros y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn hytrach na rhannu pobl â hunaniaeth amlwg.
O brofiad anecdotaidd ceir llawer mwy o gysylltiadau ffrindiau a theuluol rhwng y Gorllewin a'r Gogledd. A ydy'r Comisiwn wedi gwneud unrhyw ymchwil i weld a ydy hynny'n wir neu beidio? Os na, pam? Mae angen i'r Comisiwn edrych tu hwnt i ffiniau daearyddol hawdd a diog ac edrych yn ddyfnach ar gymunedau, eu hadnabod, y ffactorau sy'n creu cymuned (nad ydynt bob amser yn dibynnu ar ffactorau daearyddol fel afon neu heol) a dosbarthiad y cymunedau hyn rhwng y Gorllewin a'r Gogledd.
Eto o brofiad anecdotaidd bydd trigolion Gogledd Caerdydd yn aml yn mynd i Orllewin Caerdydd am adloniant, e.e. ymweld â llefydd bwyta ym Mhontcanna, ymweld â Chapter i fynd i'r sinema ac yn mynd i Acapela am gyngerdd. Annhebyg, hyd y gwn i, bydd pobl Ddwyrain Caerdydd yn ymweld â Gogledd Caerdydd am resymau tebyg a chroesymgroes. Unwaith eto a ydy'r comisiwn wedi edrych i mewn i ffactorau fel hyn? Yn fy marn dyna beth sy'n creu cymdeithas a hunaniaeth, nid afonydd a heolydd.
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.