Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-7007

Adolygiad Senedd 2026 – Ffiniau arfaethedig ar gyfer Etholaethau newydd y Senedd (Medi 2024)
Rwy'n ysgrifennu i wneud sylwadau ar yr uchod - yn benodol i wrthwynebu'r etholaeth hynod fawr a gynigir ar gyfer Sir Drefaldwyn. Fe’i ehangwyd eisoes yn ddiweddar i fod yn Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, a nawr bydd yn dod yn etholaeth "enfawr" gan gwmpasu o leiaf 20% o Gymru – Dwyfor, Meirionydd, Maldwyn a Glyndŵr. Yn y bôn, mae’n "llanast". Mae'n llawer rhy fawr ac yn anhylaw.
Mae'n ymestyn o'r de islaw Llangurig (hanner ffordd i Raeadr Gwy) hyd at y Penheli [?] (bron ym Mangor). Pa mor hir y byddai'n ei gymryd i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus rhwng y ddau le hyn? Ateb – amser HIR IAWN a byddai teithio ar y trên yn golygu mynd i mewn i Loegr! Rwy'n credu pe baech chi'n gyrru y byddai'n cymryd 3 awr. Dim llawer o gysylltiad yma. Mae'r etholaeth arfaethedig hefyd yn ymestyn o’r Ystog ar y ffin â Lloegr ar draws i'r arfordir yn Aberdaron ar Benrhyn Llŷn. Rwy'n amau na fyddai’n bosibl gwneud y daith hon ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn diwrnod ac mae'n debyg y byddai gyrru yn cymryd 3 awr dda. Felly, nid yw cysylltiadau trafnidiaeth yn gweithio ar gyfer yr etholaeth arfaethedig. Nid wyf yn argyhoeddedig bod unrhyw un o'r ffactorau eraill a restrir; diwylliant, iaith, hanes cyffredin neu ffactorau economaidd-gymdeithasol yn cynnig mwy o gydlyniad chwaith. Meddyliwch eto, os gwelwch yn dda.
Nid oes angen etholaethau mwy o faint arnom. Mae Cymru yn wlad fach ac mae angen i ni gadw'r cysylltiad rhwng ein cynrychiolwyr yn y Senedd a'r pleidleiswyr, nid ei ddinistrio.
[REDACTED]

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd