Sylw DBCC-7019
[REDACTED] Prif Weithredwr
Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru Tŷ Hastings
Fitzalan Place
Caerdydd
CF24 DBL
4 Medi 2024 Annwyl [REDACTED]
[REDACTED]
Parth: Ffiniau Newydd Arfaethedig ar gyfer Etholiadau'r Senedd 2026
Rwy'n ysgrifennu ynghylch cynigion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer etholiadau Senedd 2026. Rwy'n anghytuno'n bendant â'r cynigion am ddau reswm, sef:
1. Bydd rhai o'r etholaethau arfaethedig yn llawer rhy fawr;
2. Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r system etholiadol rhestr gaeedig arfaethedig.
Mae maint daearyddol rhai o'r etholaethau hyn yn destun cryn bryder. Deallaf y bydd Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr, sy'n ymestyn o Ben Llŷn i'r ffin â Lloegr, yn 1,926 milltir sgwâr. Sut ar y ddaear y gall un gwleidydd gynrychioli ardal mor fawr? Yn sicr, ni fydd yn gwasanaethu'r cyhoedd na'r gwleidyddion yn dda a bydd yn torri'r cysylltiad rhwng yr etholwyr a'r gwleidydd.
Bydd yr etholaeth yr wyf yn rhan ohoni - Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe - yr oeddwn wedi ei gwrthwynebu'n chwyrn yn yr adolygiad ffiniau seneddol diwethaf, yn uno â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. Eto, bydd hon yn etholaeth a fydd yn gymysgedd o ardaloedd cefn gwlad a threfol sy'n llawer rhy fawr yn ddaearyddol.
Gyda chwe gwleidydd yn cael eu hethol ym mhob un o'r 16 etholaeth bâr, ble byddan nhw'n dewis agor swyddfa etholaethol? Rwy’n dyfalu y byddant yn dewis canol trefi lle mae'r boblogaeth (a nifer y pleidleiswyr!) yn fwy. Beth os bydd pob un o'r chwe Aelod o’r Senedd yn etholaeth newydd arfaethedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn agor swyddfeydd yng Nghastell-nedd ac Abertawe? Byddai hynny'n gadael yr etholwyr i'r gogledd o Ystradgynlais yn gwbl ynysig, a byddai hynny’n eithriadol o ddrwg i ddemocratiaeth.
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.