Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-7029

Diolch i chi am eich gwaith wrth lunio cynigion ar gyfer etholaethau newydd Cymru. Mae hynny'n ymarferiad heriol a gyda'r cyfyngiadau a roddwyd arnoch, mae'r gwaith sydd wedi ei wneud yn rhesymol iawn yn fy marn i.

Carwn wneud un sylw ar y cyfuniadau, a hynny fel rhywun sydd wedi sefyll yn etholaeth blaenorol De Caerdydd a Phenarth - sydd erbyn hyn wedi ei rhannu rhwng De Caerydd a Dwyrain Caerdydd. Er bod achos dros y cyfuniad ry'ch chi'n ei awgrymu carwn ofyn i chi ystyried yn ofalus ai'r cyfuniad arall posib yng Nghaerdydd fyddai'n adlewyrchu clymau cymunedol yn well. Rwy'n cydnabod y gellid dadlau dros y naill gyfuniad neu'r llall, ond rwy'n credu fod y rhesymeg cryfaf o blaid sedd Gogledd Gorllewin a sedd De Ddwyrain (fel ag y bu mewn blynyddoedd cynt).

Gan fod y deddfwriaeth yn gofyn i chi bennu enwau uniaith (Cymraeg) ble bynnag fo hynny'n bosib, dydw i ddim yn credu fod y cynigion fel ag y mae nhw'n sefyll yn cwrdd a'r gofyn hwnnw.

Carwn awgrymu rhai enwau fel a ganlyn (gan gychwyn yn y Gogledd):

Mon Menai
Wrecsam Fflint
Gwynedd Glyndwr
Ceredigion Sir Benfro
Sir Gar
Gwyr Abertawe
De Powys, Tawe a Nedd
Taf Cynon (etholaeth newydd Merthyr ac ati ... mi wnes i feddwl am Cynon Taf ond gan fod y Taf yn llifo drwy Ferthyr a Phontypridd)
Afan, Ogwr, Garw a Rhondda
Blaenau Gwent a Caerffili
Casnewydd Islwyn

Yn gywir iawn

[REDACTED]

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd