Sylw DBCC-7057
Rwyf yn pryderu bod y gofynion am gyfagosrwydd yn golygu ein bod yn colli cyfleoedd am etholaethau a allai gynnwys synnwyr mwy naturiol o gymuned, gan gynnwys aliniad â llwybrau iechyd a gofal sefydledig ledled Cymru.
Yn gysylltiedig â hyn, teimlaf fod y map o’r etholaethau arfaethedig yn ymwneud â “gogledd Cymru” a “de Cymru” i raddau helaeth a’n bod yn colli’r ymdeimlad o etholaethau sy’n gwir gynrychioli buddiannau “canolbarth Cymru”. Dygir Llangurig a’r Ystog ynghyd â Chaernarfon; a dygir Bugeildy, Trefyclo a Rhaeadr Gwy ynghyd â Phort Tennant.
Rwyf yn cydnabod bod her sylfaenol o ran mathemateg er bod hynny’n golygu bod yn rhaid paru Maldwyn a Glyndŵr i’r gogledd oni bai ein bod yn dewis etholaeth arfordirol mawr yn y gorllewin sy’n cwmpasu Dwyfor Meirionydd a Cheredigion Preseli sy’n rhychwantu Aber Dyfi.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.