Sylw DBCC-7061
Mae llawer o’r parau mwy yn anwybyddu gwahaniaethau o ran demograffeg a diwylliant oherwydd y pwyslais ar gysylltiad ffyrdd (er bod hynny’n ofyniad nad yw o dan reolaeth y comisiwn). Mae llawer o’r newidiadau hyn yn niweidio cymunedau Cymraeg drwy ychwanegu etholaethau sydd â llawer llai o siaradwyr Cymraeg, sy’n golygu y byddant yn cael llai o gynrychiolaeth (e.e. Dwyfor Meirionydd yn uno â Sir Drefaldwyn a Glyndŵr). Nid yw’r mwyafrif ohonynt yn ystyried cysylltiadau diwylliannol ychwaith.
Mae’r isod yn dilyn rhestr o syniadau personol i gysylltu cymunedau’n well ar sail cysylltiadau diwylliannol ac agosrwydd.
1) Canol a De Sir Penfro gyda Chaerfyrddin. Mae mwy o gysylltiadau trên a materion tebyg yn wynebu’r ddwy etholaeth hyn na pharau eraill.
2) Ceredigion Preseli gyda Dwyfor Meirionnydd. Mae gan y seddi hyn fwy yn gyffredin o ran siaradwyr Cymraeg, a threfi arfordirol gwledig sydd ymhellach oddi wrth y rhan fwyaf o gysylltiadau trafnidiaeth.
3) Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gyda Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. Mae’r ddwy yn debyg o ran y demograffig gwledig a siaradwyr Saesneg. Mae’r ddwy yn seddi ar y ffin ac maent hyd yn oed yn rhannu cyngor sir mewn ***rhai ardaloedd*** (Powys).
4) Llanelli a Gŵyr. Mae hyn yn cywiro’r newid uchod i Gaerfyrddin.
5) Gorllewin Abertawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. Mae hyn yn gwneud llawer mwy o synnwyr na hollti darn o Abertawe a’i ychwanegu at Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.
6) Bro Morgannwg a De Caerdydd a Phenarth. Mae gan y Fro lai o gysylltiadau â Phen-y-bont ar Ogwr, ond mae’r Barri, y canolfan poblogaeth mwyaf, wedi ei gysylltu’n dda iawn â Dinas Powys, Penarth a Chaerdydd. Mae’r Barri hyd yn oed yn yr un parth bysiau, ac felly, byddai paru’n fwy naturiol.
7) Gogledd Caerdydd a’r Rhondda ac Ogwr. Mae hyn er mwyn datrys y mater o baru De Caerdydd a Phenarth gyda Bro Morgannwg.
8) Aberafan Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn gwneud mwy o synnwyr oherwydd bod gwell cysylltiadau trafnidiaeth â Phort Talbot o Ben-y-bont ar Ogwr nag sydd o Ben-y-bont ar Ogwr â gweddill Bro Morgannwg.
Nod yr awgrymiadau hyn yw adlewyrchu’n well y cysylltiadau diwylliannol rhwng etholaethau a chysylltiadau hanesyddol wrth eu paru (maent yn cyfateb yn well i rai o’r hen dywysogaethau yng Nghymru). Mae’r argymhellion gwreiddiol yn gwneud camgymeriadau difrifol gan fethu â chydnabod rhaniad gorllewinol/dwyreiniol, a byddent yn golygu y bydd cymunedau sydd â chysylltiadau gwaeth yn y gorllewin yn colli cynrychiolaeth mawr ei hangen.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.