Sylw DBCC-7073
Rwyf yn credu bod y cynigion a gyflwynwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn iawn fel y maent, er y gallaf gynnig ychydig o bariadau etholaethol amgen ar gyfer de y wlad. Credaf y dylai Aberafan-Maesteg gael ei pharu â Phen-y-bont ar Ogwr. Dylid paru Rhondda-Ogwr â Phontypridd. Dylid paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Blaenau Gwent a Rhymni. Dylai Caerffili gael ei pharu â Gogledd Caerdydd. Dylid paru Dwyrain Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth, a dylid paru Gorllewin Caerdydd â Bro Morgannwg. Fodd bynnag, gan mai dim ond dros dro y bydd y ffiniau hyn ar waith, nid wyf yn credu bod hyn yn bwysig mewn gwirionedd. Hefyd, gan fod yn rhaid ffurfio’r etholaethau drwy baru etholaethau presennol San Steffan ar hyn o bryd, ni fydd unrhyw ganlyniad byth yn arwain at bariadau cwbl foddhaol ar gyfer pob etholaeth, yn enwedig yng ngogledd y wlad. Edrychaf ymlaen at weld ffiniau nad ydynt yn seiliedig ar bariadau etholaethau presennol yn y dyfodol, oherwydd bydd y rhain yn debygol o ystyried hunaniaethau a daearyddiaeth leol yn fwy nag y gallai’r cynigion presennol byth.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.