Sylw DBCC-7074
Prynhawn Da,
Rwyf yn anfon e-bost atoch i ddarparu fy awgrymiadau innau ar gyfer enwau yr 16 etholaeth arfaethedig yn y Senedd. Rwyf wedi atodi map o’ch etholaethau arfaethedig gyda rhifau arnynt er hwylustod wrth gyfeirio atynt.
1.) Er nad wyf o reidrwydd yn erbyn yr enw Bangor Aberconwy Ynys Môn, fy awgrymiadau ar gyfer yr enw yw:
– Gogledd Gorllewin Cymru (North West Wales), sy’n cyfateb i leoliad daearyddol yr etholaeth.
– Môn, Menai a Chonwy, gan gyfeirio at Ynys Môn yn ogystal ag afonydd Menai a Chonwy.
Dylai’r etholaeth ddefnyddio enw Cymraeg yn bennaf oherwydd y gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg.
2.) Rwyf yn hapus mai Clwyd yw enw terfynol yr etholaeth hon.
3.) Rwyf yn hapus mai Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam yw’r enw terfynol, fodd bynnag, dyma rai cynigion eraill sydd gennyf:
– Gogledd Dwyrain Cymru (North East Wales), sy’n cyfateb i leoliad daearyddol yr etholaeth.
– Wrecsam a Sir y Fflint/Fflint, gan gyfeirio at ddinas Wrecsam a Sir y Fflint.
4.) Credaf yn bersonol fod Dwyfor Meirionydd, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn llawer rhy hir fel enw. Fy nghynigion eraill yw:
– Gwynedd a Maldwyn (Gwynedd and Montgomeryshire), gan gyfeirio at y ffaith fod y rhan fwyaf o Gyngor Sir Gwynedd o fewn ffiniau Dwyfor Meirionydd, yn ogystal â chyfeirio at Sir hanesyddol Drefaldwyn.
– Gwynedd, Glyndŵr a Maldwyn (Gwynedd, Glyndwr and Montgomershire), yr un rhesymeg â’r uchod.
Dylai’r etholaeth ddefnyddio enw Cymraeg yn bennaf oherwydd y gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg.
5.) Fy enwau eraill ar gyfer Ceredigion a Sir Benfro yw:
– Gorllewin Cymru (West Wales), gan gyfeirio at y rhanbarth daearyddol.
– Cymru Arfordirol/Wales Coastal, gan gyfeirio at y ffaith y byddai gan yr etholaeth hon un o’r morlinau, os nad y morlin mwyaf ymhlith pob un o’r 16 etholaeth.
6.) Rwyf yn hapus gyda Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag, rwyf yn awgrymu blaenoriaethu’r enw Cymraeg, Sir Gaerfyrddin, oherwydd y gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg.
7.) Rwyf yn hapus gyda’r enw Gŵyr a Gorllewin Abertawe, ond fy nghynigion eraill yw:
– Gŵyr a Gorllewin Tawe (Gower and West Tawe), gan gyfeirio at benrhyn Gŵyr a sut y lleolir cyfran fawr o’r etholaeth i’r gorllewin o Afon Tawe.
– Gŵyr ac Abertawe (Gower and Swansea), gan gyfeirio at benrhyn Gŵyr a’r rhan fwyaf o Ddinas Abertawe.
– Gŵyr/Gower, gan gyfeirio at hen gwmwd/arglwyddiaeth Gŵyr a oedd yn cynnwys Abertawe.
8.) Rwyf yn canfod Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn dal yn rhy hir, felly fy nghynigion yw:
– Aberhonddu, Maesyfed a Chastell-nedd-Fabian, mae’r enw Fabian yn cyfeirio at y ffordd Fabian Way yn Nwyrain Abertawe, yn ogystal â’r hen Fae Fabian, sef basn naturiol a fodolai yn flaenorol lle ceir Dociau Abertawe yn awr.
– Aberhonddu, Maesyfed a Dwyrain Bae Abertawe, gan gyfeirio at leoliad Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn hanner dwyreiniol Bae Abertawe.
9.) Gellid symleiddio Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr â’r enw canlynol:
– Aberafan a Gorllewin Rhondda (Aberafan and Rhondda West), gan gyfeirio at sut mae Rhondda ac Ogwr yn rhan orllewinol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
– Aberafan, Maesteg a Gorllewin Rhondda (Aberafan, Maesteg and Rhondda West), yr un rhesymeg ag uchod, ond cynrychiolir Maesteg hefyd sy’n rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
10.) Fy awgrymiadau amgen ar gyfer Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd yw:
– Dwyrain Rhondda (Rhondda East), gan gyfeirio at faint o’r etholaeth sydd yn y rhan ddwyreiniol o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
– Dwyrain Rhondda a Merthyr (Rhondda East and Merthyr), yr un rhesymeg ag uchod, ond cynrychiolir Merthyr Tudful sy’n fwrdeistref sirol ei hun.
11.) Gellid enwi Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili hefyd fel a ganlyn:
– Gorllewin Gwent (Gwent West), gan gyfeirio at y modd y mae’r etholaeth yn ffurfio rhan orllewinol o sir a gadwyd Gwent.
12.) Enwau eraill ar gyfer Sir Fynwy a Thorfaen yw:
– Sir Fynwy (Monmouthshire), gan gyfeirio at y sir hanesyddol.
– Dwyrain Gwent (Gwent East), gan gyfeirio at ran ddwyreiniol y sir a gadwyd.
13.) Nid oes gennyf awgrymiadau eraill ar gyfer Casnewydd ac Islwyn.
14.) Rwyf yn hapus gydag enw Dwyrain a Gogledd Caerdydd, fodd bynnag, mae rhai awgrymiadau eraill yn cynnwys:
– Dwyrain Caerdydd (Eastern Cardiff), gan gyfeirio at ei hardal ddaearyddol.
– Canol Caerdydd (Central Cardiff), gan gyfeirio at y rhan o Ddinas Caerdydd y’i lleolir ynddi.
15.) Fy enwau eraill ar gyfer Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth yw:
– Gorllewin Caerdydd a Phenarth (Cardiff West and Penarth), gan gyfeirio at ardal ddaearyddol Caerdydd a Phenarth.
– Gorllewin Caerdydd a Phenarth (Western Cardiff and Penarth), enw arall ar gyfer yr uchod.
16.) Fy enw arall ar gyfer Bro Morgannwg a Phen-y-bont yw:
– De Morgannwg (South Glamorgan), gan gyfeirio at y Sir a Gadwyd.
Gobeithiaf y gallwch ystyried yr awgrymiadau hyn yr wyf wedi eu gwneud, er fy mod yn deall yn llwyr efallai na fyddant yn cael eu derbyn. Edrychaf ymlaen at weld eich cynigion diwygiedig ar gyfer yr etholaethau newydd.
Cofion Cynnes,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.