Sylw DBCC-7092
Mae'r cynigion wedi'u hadeiladu ar sail cysylltiad ffordd rhwng y darpar barau o etholaethau. Nid yw hyn yn ystyried ymarferoldeb ac effeithlonrwydd gweithio gyda chyrff democrataidd eraill megis cynghorau lleol. Mae'r etholaeth sy'n ymwneud â'r Rhondda wedi ei pharu ag Aberafan a Maesteg a byddai hyn yn achosi i aelod etholedig ymdrin â llu o gynghorau. Byddai'n fwy effeithlon pe bai ardaloedd daearyddol presennol y cynghorau yn cael eu defnyddio. E.e. dylai Rhondda gael ei pharu â Phontypridd neu Gynon gan mai'r cyngor fyddai'n ymdrin â hyn fyddai Rhondda Cynon Taf. Gyda’r cynnig presennol byddai gan bob Aelod o’r Senedd sawl cyngor i ymdrin â nhw.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.