Sylw DBCC-7100
[REDACTED] , hoffwn wneud sylw ar y trefniadau arfaethedig yn ardal Abertawe.
Rwy’n cefnogi paru etholaethau San Steffan Gŵyr a Gorllewin Abertawe yn llwyr. Mae gan yr ardaloedd hyn gysylltiadau naturiol cryf ac maent yn gymunedau integredig. Er enghraifft, mae ystâd Gendros wedi’i rhannu rhwng wardiau’r Cocyd (Gŵyr) a Chwmbwrla (Gorllewin Abertawe), tra bod Ysgol Olchfa â’i dalgylch eang ar y ffin rhwng ward Dyfnant a Chilâ (Gŵyr) a ward Sgeti (Gorllewin Abertawe). Mae pobl o bob rhan o’r Gŵyr yn teithio i Orllewin Abertawe i siopa a chael mynediad at wasanaethau lleol.
Mewn egwyddor, gallai etholaeth Gorllewin Abertawe gael ei pharu’n rhesymol ag etholaeth Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, ond byddai hyn yn cael effeithiau niweidiol mewn mannau eraill. Ychydig o gysylltiadau naturiol sydd, er enghraifft, rhwng Gŵyr a Llanelli, tra byddai paru Gŵyr ac Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn hurt.
Mae cysylltiad Castell-nedd a Dwyrain Abertawe ag Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn gwneud synnwyr o ystyried bod y sedd olaf eisoes yn cynnwys nifer o etholaethau Castell-nedd. Yn sicr nid yw’n ffit perffaith, ond o fewn y system go hurt a ddyfeisiwyd gan y Senedd, mae’n ymddangos mai dyma’r paru mwyaf synhwyrol. Yn ystod yr adolygiad blaenorol o ffiniau San Steffan, cafwyd llawer o gyflwyniadau yn gwrthwynebu rhannu ardal Cwm Tawe oddi wrth Gastell-nedd, ac mae'r ffiniau arfaethedig newydd yn ymateb i hyn.
I grynhoi: Rwy’n cefnogi’n llwyr y ffiniau y mae’r Comisiwn wedi’u cynnig yn ardal Abertawe.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.