Sylw DBCC-7103
Ymateb Plaid Cymru i Adolygiad 2026 o etholaethau’r Senedd - Cynigion Cychwynnol gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyfyngiadau mae’r Comisiwn Ffiniau yn gweithio danynt yn yr adolygiad hwn. Rydym yn ymwybodol mai cynigion yw’r rhain ar gyfer un etholiad yn unig.
Y mae gennym bryderon am faint daearyddol rhai o’r etholaethau arfaethedig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac yn benodol Dwyfor Meirionnydd, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr a Cheredigion Sir Benfro.
Ein gobaith yw, pan ganiateir i’r Comisiwn Ffiniau gynnal adolygiad llawn i’w ddefnyddio yn Etholiad 2030 y Senedd, y rhoddir ystyriaeth i leihau maint yr etholaethau hyn.
Ond ar waethaf yr amheuon hyn, rydym ar y cyfan yn fodlon gyda’r Cynigion Cychwynnol a amlinellwyd gan y Comisiwn Ffiniau.
Caerdydd
Un ardal lle nad ydym yn hollol fodlon, a lle buasem yn gofyn yn barchus i’r Comisiwn ail-ystyried y trefniadau yw yng Nghaerdydd. Rydym wedi derbyn nifer o sylwadau gael aelodau Plaid Cymru yn dymuno i Dde Caerdydd gael ei efeillio gyda Dwyrain Caerdydd, a Gogledd Caerdydd i’w efeillio gyda Gorllewin Caerdydd.
Yn dilyn trafodaethau mewnol, yr ydym yn dal yn niwtral ynghylch pa rai o’r ffurfiannau hyn fyddai’n rhoi’r ateb gorau. Fodd bynnag, codwn y mater hwn fel y gall y Comisiwn asesu ymhellach y trefniadau gorau posib i’r ardal.
Enwi
Nodir yng Nghanllaw’r Comisiwn i’r Adolygiad y dywed y Ddeddf y dylai pob etholaeth gael un enw, oni bai bod hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol. Â’r canllaw ymlaen i ddweud y bydd y Comisiwn, ar gyfer ei Gynigion Cychwynnol, yn defnyddio enwau etholaethau San Steffan fel sail i’r enwi.
Yr hyn nad yw’n glir i ni yw a fydd enwi yn cael ei ystyried yn llawnach ac a fydd cydymffurfio agosach â’r Ddeddf yn ystod cam nesaf y broses. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu fod y Cynigion Cychwynnol yn adlewyrchu geiriad nac ysbryd y Ddeddf.
Awgrymiadau penodol:
1.
Galw Sir Fynwy a Thorfaen yn Gwent East – Dwyrain Gwent
Mae hyn yn fyrrach na’r hyn a awgrymwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn Ffiniau.
Plaid Cymru, Ty Gwynfor, Llys Anson, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4AL
2.
Enwi Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd yn Merthyr Tydfil, Cwm Cynon and Pontypridd - Merthyr Tudful, Cwm Cynon a Phontypridd.
Yn adolygiad diwethaf San Steffan, rhannwyd Cwm Cynon yn ddau gan y Comisiwn Ffiniau, gyda’r rhan ogleddol yn cael ei ail-enwi yn Aberdâr a’i asio gyda Merthyr Tudful. Yr ydym yn falch fod cynigion newydd y Comisiwn Ffiniau am y Senedd yn uno Cwm Cynon unwaith eto; fodd bynnag, nodwn nad yw’r enw gwreiddiol wedi ei ail-gyflwyno.
Awgrymwn adfer yr enw "Cwm Cynon" i adlewyrchu hunaniaeth hanesyddol a diwylliannol yr ardal.
3.
Enwi Ceredigion Pembrokeshire yn Ceredigion Sir Benfro
Mae Sir Benfro yn cael ei ddefnyddio’n helaeth yn yr ardal a bydd y rhan fwyaf o drigolion yn ei ddeall.
4.
Swansea West and Gower i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig, Gorllewin Abertawe a Gŵyr
5.
Ail-enwi Bangor Aberconwy Ynys Môn yn Conwy Ynys Môn
Tan 2005, yr oedd Etholaeth San Steffan oedd yn ymestyn dros Fangor, Conwy a Llandudno mewn bodolaeth dan yr enw Conwy.
Mae mwyafrif helaeth Etholaeth newydd y Senedd naill ai yn Ynys Môn neu â chysylltiad gydag enw Conwy (naill ai’r Sir neu Etholaeth flaenorol San Steffan)
6.
Ail-enwi Carmarthenshire – Sir Gaerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin
O gofio fod yr etholaeth San Steffan yn defnyddio’r enw Cymraeg syml "Caerfyrddin," mae’n ymddangos yn anghyson i’r Senedd ail-gyflwyno enw Saesneg.
Argymhellwn fabwysiadu Sir Gaerfyrddin er mwyn cysondeb ac adlewyrchu’r dewis lleol am yr enw Cymraeg yn well.
7.
Ail-enwi Dwyfor Meirionnydd, Montgomeryshire and Glyndŵr (Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr) yn Eryri a Maldwyn
Mae ail-enwi’r Parc Cenedlaethol yn "Eryri" yn rhoi enw unedig ac adnabyddus i’r rhan fwyaf o bell ffordd o’r etholaeth arfaethedig hon. O’i gyfuno ag enw hanesyddol yr etholaeth, "Maldwyn," mae’n cynnig enw byrrach a mwy ystyrlon sydd yn adlewyrchu treftadaeth a daearyddiaeth yr ardal.
Credwn y buasai’r cyfuniad hwn yn enw addas a chryno i’r etholaeth newydd.
[REDACTED]
Cyfarwyddwr Etholiadau
Plaid Cymru
Dogfennau ategol
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Plaid Cymru
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.