Sylw DBCC-7106
Prynhawn da
Ysgrifennaf mewn ymateb i’r cynigion cychwynnol sydd wedi’u cynnwys yn Adolygiad 2026 Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ffiniau etholaethau’r Senedd, a gyhoeddwyd ar 03.09.24.
Rwy’n cefnogi cynnig y Comisiwn ym Mhennod 4 (11) y dylid creu etholaeth sirol newydd o gyfuno etholaethau Seneddol y DU, Caerffili a Blaenau Gwent a Rhymni.
Cytunaf ag asesiad y Comisiwn bod 'cysylltiadau ffyrdd da rhwng y ddwy ardal a thrwy baru'r ddwy etholaeth hon yn Senedd y DU byddai'r Comisiwn yn uno ardaloedd sy'n rhan o ardal prif gyngor Caerffili yn un etholaeth drwy adeiladu ar y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli' a'i fod felly yn 'creu etholaeth gydlynol'.
Mae nifer fach o bryderon wedi’u codi gyda mi ynglŷn â’r cynnig i rannu ward llywodraeth leol Cefn Fforest a Phengam rhwng yr etholaeth arfaethedig ac etholaeth newydd arfaethedig Casnewydd ac Islwyn. Fodd bynnag, ar ôl siarad â chynrychiolwyr etholedig lleol, er y byddai hyn yn creu anghysondeb o ran alinio gwahanol lefelau o gynrychiolaeth etholiadol, nid yw’n broblem yr ystyrir ei bod yn anorchfygol.
Yn gywir
Hefin
Hefin David AS
Aelod o'r Senedd, Caerffili
Math o ymatebwr
Aelod o Senedd Cymru
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.