Sylw DBCC-7107
Annwyl Syr / Madam,
YMATEB I YMGYNGHORIAD AR GYNIGION AR GYFER 16 ETHOLAETH NEWYDD YN Y SENEDD
Diolch yn fawr am y cyfle i gyflwyno ein barn ar y cynigion cychwynnol ar gyfer 16 etholaeth newydd y Senedd. Bydd ein hymateb yn canolbwyntio'n bennaf ar etholaeth arfaethedig Ceredigion a Sir Benfro ac egwyddorion dosbarthu etholaethau.
Mae cael ei gyfyngu i ffiniau etholaethau Seneddol y DU wedi arwain at greu ardaloedd daearyddol mawr ar gyfer y parau, sydd wedi creu etholaethau newydd y Senedd. Mae hyn yn cynnwys etholaeth arfaethedig Ceredigion a Sir Benfro, sydd ymhlith y mwyaf o ran ei daearyddiaeth, gyda phellter o 90 milltir o'r gogledd i'r de, gydag amser teithio amcangyfrifedig o 2 ½ awr. Mae cymunedau Ceredigion Preseli a Chanolbarth a De Sir Benfro hefyd yn wahanol iawn o ran iaith, diwylliant, cysylltiadau lleol ac ati.
Mae cael etholaeth mor fawr yn debygol o arwain at golli cysylltiad rhwng yr aelodau etholedig a'u hetholwyr. Gallai hyn, yn ychwanegol at yr holl newidiadau eraill y mae'n rhaid i etholwyr eu deall, arwain at lai o bleidleisio.
Rydym yn cytuno gydag enw’r etholaeth fel mae’n sefyll sef Ceredigion a Sir Benfro / Ceredigion and Pembrokeshire.
Rydym yn deall mai ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael i chi mewn perthynas â'r adolygiad hwn oherwydd bod y Ddeddf yn datgan y dylai'r Comisiwn baru 21 o etholaethau Senedd y DU; fodd bynnag, edrychwn ymlaen at gael cynigion amgen ar gyfer Etholiadau'r Senedd 2030 lle rhoddir mwy o ystyriaeth i ffactorau eraill fel iaith, diwylliant, cysylltiadau lleol ac ati.
Yn gywir,
Y Cynghorydd Bryan Davies
Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Enw sefydliad
Ceredigion County Council
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.