Sylw DBCC-7182
Fel preswylydd lleol ers dros 60 mlynedd teimlaf y dylai etholaeth Bro Morgannwg gynnwys Penarth a Dinas Powys yn hytrach na Phen-y-bont ar Ogwr. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy cysylltiedig â Chwm Garw a Phort Talbot na Bro Morgannwg.
Teimlaf hefyd fod parau etholaethau cymoedd de Cymru i redeg o’r gogledd i’r de i fyny ac i lawr y cymoedd, felly mae paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Phontypridd yn adlewyrchu cysylltiadau lleol yng nghymunedau’r cymoedd. Yn yr un modd â Phen-y-bont ar Ogwr a Chwm Garw.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.