Sylw DBCC-7213
Mae’r cynigion ar gyfer y gogledd – Ynys Môn, Bangor Aberconwy, Clwyd, Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam – yn gwneud synnwyr ac yn rhesymegol ac maent yn dilyn ffiniau a ddeellir yn dda o safbwynt gwasgariad poblogaeth, daearyddiaeth a hen ffiniau sirol. Rwy’n cefnogi’r cynigion ar gyfer yr ardaloedd hyn.
Nid yw’r cynigion ar gyfer y gogledd-orllewin, o Ddwyfor i Drefaldwyn, yn gwneud unrhyw synnwyr ac nid ydynt yn rhesymegol o safbwynt daearyddiaeth a’r gwahaniaeth o ran gwasgariad poblogaeth, agosrwydd ardaloedd trefol, seilwaith, cyflogaeth, trafnidiaeth gyhoeddus, a gwahaniaethau a ddeellir yn dda o ran diwylliant a chymunedau clos a diffyg niferoedd mewn ardaloedd gwledig. Nid wyf yn cefnogi’r cynnig hwn ac mae angen ei ystyried ymhellach.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.