Sylw DBCC-7342
Foneddigion,
Parthed: Ymateb i’r Ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad o Ffiniau yng Nghymru
Goblygiadau’r gofyniad i gael ‘etholaethau cyffiniol’
Yn ôl Atodlen 2, paragraff 2(1) Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, “Rhaid i ardal pob etholaeth Senedd gynnwys ardaloedd cyfunedig dwy o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol.”
Mae’r Comisiwn yn cyfeirio at hynny ar dudalen 2 ei adroddiad, ar ôl nodi mai “dim ond cysylltiadau ffyrdd sydd gan etholaeth seneddol y DU Ynys Môn â’r tir mawr, drwy etholaeth seneddol y DU Bangor Aberconwy” a chyn datgan ei farn “bod cael cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan hanfodol o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus”. Mae yna’n cynnig paru Ynys Môn â Bangor Aberconwy.
Rwyf o’r farn bod y Comisiwn yn gywir i baru’r etholaethau hyn â’i gilydd. Byddai The Home Rental Company yn mynd mor bell â dweud y dylai’r Comisiwn baru Ynys Môn â Bangor Aberconwy, gan fod yr unig gysylltiadau ffyrdd (a rheilffyrdd) sydd rhwng Ynys Môn a’r tir mawr yn mynd drwy Fangor Aberconwy, a bod y ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol yn mynnu bod etholaethau a gaiff eu paru â’i gilydd yn gyffiniol. Pe bai’r Comisiwn yn paru Ynys Môn ag etholaeth arall yn lle hynny, byddai angen i bobl deithio drwy Fangor Aberconwy i fynd o un rhan o’u hetholaeth i ran arall, ac ni fyddai’r etholaeth arall yn gyffiniol ag Ynys Môn.
Felly, rydym yn credu mai’r unig ddewis sydd gan y Comisiwn yw paru etholaethau seneddol y DU ar hyd arfordir y gogledd yn y modd y mae wedi’u paru.
Ar ôl paru Ynys Môn â Bangor Aberconwy, mae’n rhaid i’r Comisiwn baru Gogledd Clwyd â Dwyrain Clwyd, gan nad yw Gogledd Clwyd yn gyffiniol ag unrhyw un o etholaethau eraill San Steffan, ar wahân i etholaeth Bangor Aberconwy y mae’n rhaid ei pharu ag Ynys Môn.
Gan fod etholaeth Gogledd Clwyd wedi’i pharu â Dwyrain Clwyd, mae’n rhaid i’r Comisiwn baru Alun a Glannau Dyfrdwy â Wrecsam. Nid yw Alun a Glannau Dyfrdwy yn gyffiniol ag unrhyw un o etholaethau seneddol eraill y DU yng Nghymru, ar wahân i etholaeth Dwyrain Clwyd, sydd wedi’i pharu yn barod â Gogledd Clwyd.
Goblygiadau poblogaeth denau yng nghefn gwlad Cymru
Roedd rhai adroddiadau a sylwadau ynghylch cynigion cychwynnol y Comisiwn yn canolbwyntio ar y ffaith bod etholaeth Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr, a gynigir gan y Comisiwn, yn fawr. Fodd bynnag, nid beirniadaeth o waith y Comisiwn yw hynny, oherwydd
• Mae’r ffaith bod yr etholaeth yn fawr yn adlewyrchu poblogaeth denau llawer o gefn gwlad Cymru, o ganlyniad i’r rheolau a ddefnyddiwyd i ffurfio etholaethau seneddol y DU; ac
• O ystyried y drafodaeth uchod, dim ond ag etholaeth Maldwyn a Glyndŵr neu etholaeth Ceredigion Preseli y gellir paru Dwyfor Meirionnydd.
Rydym yn cefnogi cynnig y Comisiwn, oherwydd yr unig opsiwn arall yw paru Dwyfor Meirionnydd ag etholaeth Ceredigion Preseli. Byddai hynny’n creu etholaeth a fyddai’n ymestyn o Gaernarfon i Abergwaun, ac er y byddai ei harwynebedd yn debyg byddai’n golygu mwy fyth o bellter ac o amser teithio i fynd o amgylch yr etholaeth ac yn golygu mai bach iawn o bethau fyddai’n gyffredin rhwng pegynau’r etholaeth, i’r fath raddau fel y gallai ddwyn anfri ar yr holl adolygiad.
Rwyf hefyd yn cefnogi cynigion eraill y Comisiwn ar gyfer paru etholaethau y mae poblogaeth denau’r canolbarth a’r gorllewin yn effeithio arnynt.
Mae’r Comisiwn wedi llwyddo i ystyried ffiniau llywodraeth leol ac wedi cynnal cysylltiadau lleol drwy gynnig ‘Ceredigion a Sir Benfro’ a ‘Sir Gaerfyrddin’ fel etholaethau. Mae The Home Rental Company yn cefnogi’r rhain yn frwd.
Rydym yn rhagweld y bydd etholaeth Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, a gynigir gan y Comisiwn, yn fwy dadleuol, er bod The Home Rental Company yn cefnogi’r cynnig.
O ystyried y drafodaeth uchod, nid yw’n bosibl cyfuno etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe ag unrhyw etholaeth sydd i’r gogledd na’r gorllewin ohoni, ac ni all The Home Rental Company weld unrhyw ddadleuon da dros ei chyfuno ag unrhyw etholaethau eraill sydd i’r de ohoni.
Mae dadleuon sy’n nodi nad oes gan Aberhonddu a Maesyfed gysylltiadau â Chwm Tawe hefyd yn berthnasol i Ystradgynlais, sydd wedi bod yn gysylltiedig ers amser maith ag Aberhonddu a Maesyfed at ddibenion seneddol. At hynny, er bod The Home Rental Company yn cydnabod bod ymestyn yr etholaeth hyd at Bontardawe yn ddadleuol, cafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud yn flaenorol ar gyfer Senedd y DU, ac nid oes gan y Comisiwn unrhyw ddewis ond defnyddio’r etholaethau hynny fel blociau adeiladu.
Er bod gan Bontardawe gysylltiadau gwael efallai ag Aberhonddu a Maesyfed, mae’n amlwg bod gan y lle gysylltiadau lleol cryf â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. Mae The Home Rental Company o blaid yr etholaeth Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe a gynigir, ac yn teimlo ei bod yn opsiwn mwy ffafriol na rhai eraill sy’n waeth.
Gweithio gyda thopograffi cymoedd y de
Mae’n anodd integreiddio cymoedd y de yn briodol i mewn i 16 yn unig o etholaethau ar draws Cymru, ac mae’n anochel y bydd yna wyriadau.
Mae’r Comisiwn yn gywir o ran egwyddor yn ei gynigion cychwynnol. Os oes modd, gorau oll os gellir parchu topograffi’r cymoedd drwy eu defnyddio i gysylltu etholaethau â’i gilydd o’r gogledd i’r de, yn hytrach na gorfodi etholaethau i ffurfio pâr o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws cymoedd nad ydynt yn rhannu’r un cysylltiadau lleol a chymunedol.
Mae hynny’n amlwg yn achos parau ‘Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd’ a ‘Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili’, lle mae’r etholaethau sydd wedi’u paru â’i gilydd yn cyd-redeg ag amlinellau’r cymoedd o’r gogledd i’r de yn gyffredinol, gan barchu cymunedau a chysylltiadau lleol heb eu hollti. Dyna fyddai’n dueddol o ddigwydd pe baent yn cael eu paru fel arall o’r dwyrain i'r gorllewin.
Yn yr un modd, mae The Home Rental Company yn cefnogi cynnig y Comisiwn i baru Casnewydd ag Islwyn, a’r cam naturiol i baru Sir Fynwy a Thorfaen â’i gilydd, sy’n ddwy etholaeth sydd â chysylltiadau hanesyddol.
Rydym o’r farn bod y Comisiwn hefyd yn gywir i baru cymunedau Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, sydd â chysylltiadau agos â’i gilydd, yn hytrach na gorfodi cysylltiad annaturiol rhwng etholaeth wledig Bro Morgannwg ac etholaeth yng Nghaerdydd, sef y brifddinas.
Rydym o’r farn bod y cyfuniad sy’n digwydd o ganlyniad i hynny, sef paru ardaloedd Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr â’i gilydd fel etholaeth sydd â threftadaeth ddiwydiannol gysylltiedig, hefyd yn hybu cysylltiadau lleol.
Y parau yng Nghaerdydd
Rydym yn credu ei bod yn gywir i’r pedair etholaeth yng Nghaerdydd gael eu paru â’i gilydd, a bod y Comisiwn wedi cynnig y parau cywir yn y brifddinas.
Mae daearyddiaeth yn cysylltu Dwyrain Caerdydd a Gogledd Caerdydd yn agosach â Chasnewydd, Bryste a choridor yr M4 ymhellach i’r dwyrain i mewn i Loegr. Mae Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yn tueddu i edrych yn fwy tuag at y gorllewin ar hyd yr M4 ac i gyfeiriad Abertawe.
Mae cysylltiadau lleol, cysylltiadau eraill a’r rhwydwaith ffyrdd yng Nghaerdydd, yn enwedig yr A4232, yn cysylltu De Caerdydd a Phenarth yn fwyaf agos â Gorllewin Caerdydd. Mae cysylltiadau lleol, cysylltiadau eraill a’r rhwydwaith ffyrdd yng Nghaerdydd yn cysylltu Dwyrain Caerdydd yn fwyaf agos â Gogledd Caerdydd, oherwydd yr A48 a daearyddiaeth gysylltiedig y ddwy etholaeth i’r dwyrain o afon Taf.
Mae’r bwlch a adawyd yn y ffordd, a fyddai fel arall wedi bod yn ffordd amgylchynol (M4/A4232/A48(M)) i Gaerdydd yn golygu bod Ffordd Rover, nad yw’n ffordd ddeuol, yn cysylltu Dwyrain Caerdydd yn wael â De Caerdydd a Phenarth. At hynny, mae afon Rhymni a safle gwastraff Ffordd Lamby yn cyfrannu i gysylltedd eithaf gwael rhwng y ddwy etholaeth dan sylw, sy’n etholaethau seneddol y DU.
Yr eiddoch yn gywir
[REDACTED]
Dogfennau ategol
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
The Home Rental Company Limited
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.