Sylw DBCC-7350
Rwyf o blaid cynigion y Comisiwn, oherwydd maent yn gwneud synnwyr o ran sut y mae pobl yn byw ac yn teithio mewn gwirionedd yng Nghymru. Mae paru lleoedd y mae ffyrdd yn eu cysylltu â’i gilydd yn barod, megis Ynys Môn â Bangor Aberconwy, yn ymddangos yn rhesymegol. Mae hynny hefyd yn parchu’r cysylltiadau lleol mewn ardaloedd megis cymoedd y de a chefn gwlad Cymru, yn lle gorfodi ardaloedd nad oes ganddynt fawr ddim yn gyffredin mewn gwirionedd i uno â’i gilydd. Mae’r parau yng Nghaerdydd yn gweithio’n dda o ran daearyddiaeth ac o ran y ffyrdd presennol, felly’r teimlad cyffredinol yw bod y Comisiwn wedi treulio llawer o amser yn ceisio sicrhau bod y newidiadau hyn yn ymarferol ac yn deg.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.