Sylw DBCC-7373
Mae’n bwysig bod etholaethau yng nghymoedd y de yn cael eu paru ag etholaethau sydd i’r gogledd neu’r de ohonynt, i fyny ac i lawr y cymoedd. Felly, mae paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Phontypridd yn adlewyrchu cysylltiadau lleol yng nghymunedau’r cymoedd.
Yng Nghaerdydd, rwy’n cefnogi’r ffaith bod y Comisiwn wedi paru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth, oherwydd bod yr A4232 yn eu cysylltu’n agos â’i gilydd a bod afon Taf yn eu gwahanu oddi wrth weddill Caerdydd.
Mae’n bwysig uno etholaeth Caerfyrddin a Llanelli, oherwydd 1 sir ydyw, felly mae’n gwneud synnwyr iddi fod yn 1 etholaeth.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.