Sylw DBCC-7513
Fel dinesydd Cymreig rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn sy'n dilyn.
Cyhoeddodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y "Comisiwn") ei gynigion cychwynnol ar gyfer Adolygiad 2026 o etholaethau'r Senedd ar 3 Medi 2024. Nodwn fod y Comisiwn yn ymgynghori ar y rhain tan 30 Medi 2024.
[REDACTED]
Goblygiadau'r gofynion 'etholaethau cyffiniol'
Mae Atodlen 2 paragraff 2(1) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn datgan bod yn "Rhaid i ardal pob etholaeth Senedd gynnwys ardaloedd cyfunedig dwy o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol”.
Mae'r Comisiwn yn cyfeirio at hyn ar dudalen 8 o'i adroddiad, ar ôl nodi: "Ynys Môn only has road connections to the mainland via the Bangor Aberconwy UK Parliamentary constituency", a chyn datgan ei farn: "that having clear communication and travel connections is a vital part of being able to provide for effective and convenient representation”. Yna mae'n cynnig paru Ynys Môn a Bangor Aberconwy.
Credwn fod y Comisiwn yn gywir i wneud y paru hwn. Byddem yn mynd ymhellach a datgan bod rhaid i'r Comisiwn baru Ynys Môn a Bangor Aberconwy, gan fod yr unig gysylltiadau ffordd (a rheilffordd) o Ynys Môn i'r tir mawr drwy Fangor Aberconwy, ac mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i etholaethau sy’n cael eu paru fod yn gyffiniol. Pe bai'r Comisiwn yn paru Ynys Môn ag etholaeth arall, fel bod angen i bobl deithio drwy Fangor Aberconwy i fynd o un rhan o'u hetholaeth i'r llall, ni fyddai'r etholaeth honno'n gyffiniol.
Credwn felly nad oes gan y Comisiwn unrhyw ddewis ond paru etholaethau Senedd y DU ar hyd arfordir y Gogledd fel y mae wedi'i wneud.
Unwaith y bydd Ynys Môn wedi'i pharu â Bangor Aberconwy, rhaid i'r Comisiwn baru Gogledd Clwyd â Dwyrain Clwyd, gan nad yw Gogledd Clwyd yn gyffiniol ag unrhyw un arall o etholaethau San Steffan ac eithrio Bangor Aberconwy, y mae'n rhaid ei pharu ag Ynys Môn.
Gan fod Gogledd Clwyd wedi'i pharu â Dwyrain Clwyd, rhaid i'r Comisiwn baru Alun a Glannau Dyfrdwy â Wrecsam. Nid yw Alun a Glannau Dyfrdwy yn gyffiniol ag unrhyw un o etholaethau eraill Senedd y DU yng Nghymru ac eithrio Dwyrain Clwyd, sydd eisoes wedi'i pharu â Gogledd Clwyd.
Goblygiadau poblogaeth brin yng nghefn gwlad Cymru
Roedd rhywfaint o adroddiadau a sylwebaeth ar gynigion cychwynnol y Comisiwn yn canolbwyntio ar faint mawr etholaeth arfaethedig Dwyfor Meirionnydd, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn feirniadaeth o waith y Comisiwn, gan fod maint mawr yr etholaeth yn adlewyrchu poblogaeth brin llawer o gefn gwlad Cymru, oherwydd y rheolau sy'n berthnasol i ffurfio etholaethau Senedd y DU; ac o ystyried y drafodaeth uchod, dim ond â naill ai Sir Drefaldwyn a Glyndŵr neu Geredigion Preseli y gellir paru Dwyfor Meirionnydd.
Rydym yn cefnogi cynnig y Comisiwn, gan mai'r unig ddewis arall yw paru Dwyfor Meirionnydd â Cheredigion Preseli. Byddai hyn yn creu etholaeth sy'n ymestyn o Gaernarfon i Abergwaun a fyddai, er yn debyg o ran arwynebedd, yn gofyn am bellteroedd ac amseroedd teithio hirach hyd yn oed, a heb lawer o elfennau cyffredin rhwng ei heithafion, fel y gallai ddwyn anfri ar yr adolygiad cyfan.
Mae Reform UK yn cefnogi cynigion eraill y Comisiwn hefyd ar gyfer paru etholaethau sy'n cael eu heffeithio gan boblogaeth brin y Canolbarth a'r Gorllewin.
Mae'r Comisiwn wedi ystyried ffiniau llywodraeth leol yn llwyddiannus ac wedi cynnal cysylltiadau lleol drwy gynnig 'Ceredigion a Sir Benfro' a 'Sir Gaerfyrddin' fel etholaethau. Rydym yn cefnogi'r rhain yn gryf.
Rydym yn rhagweld y bydd etholaeth arfaethedig Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn fwy dadleuol, er ein bod yn ei chefnogi.
O ystyried y drafodaeth uchod, nid oes modd cyfuno etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe ag unrhyw etholaeth arall i'r gogledd nac i'r gorllewin, ac nid ydym yn gweld dadleuon da dros ei chyfuno ag unrhyw un arall o'r etholaethau i'r de.
Mae dadleuon yn erbyn paru Aberhonddu a Maesyfed â Chwm Tawe yn berthnasol i Ystradgynlais hefyd, sydd wedi’i chysylltu ers tro byd ag Aberhonddu a Maesyfed at ddibenion Senedd y DU. Ymhellach, er ein bod yn cydnabod bod ymestyn yr etholaeth i Bontardawe yn ddadleuol, gwnaed y penderfyniad hwn yn flaenorol ar gyfer Senedd y DU, ac nid oes gan y Comisiwn unrhyw ddewis ond defnyddio'r etholaethau hynny fel blociau adeiladu.
Er y gellid dweud bod gan Bontardawe gysylltiadau gwael ag Aberhonddu a Maesyfed, mae'n amlwg bod ganddi gysylltiadau lleol cryf â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. Rydym yn cefnogi etholaeth arfaethedig Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe gan fod y cynnig yn well na'r opsiynau gwaeth eraill.
Gweithio gyda thopograffi cymoedd Cymru
Mae'n anodd integreiddio cymoedd y De yn briodol i ddim ond 16 etholaeth ar draws Cymru, ac mae anghysondebau'n anochel.
Mae'r Comisiwn yn llygad ei le mewn egwyddor yn ei gynigion cychwynnol. Lle bo'n bosibl, mae'n well parchu topograffi'r cymoedd, drwy ddefnyddio'r cymoedd hynny i gysylltu etholaethau o'r gogledd i'r de, yn hytrach na gorfodi etholaethau i baru o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws cymoedd nad ydynt yn rhannu'r un cysylltiadau lleol a chymunedol.
Mae hyn yn glir gyda pharau 'Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd' a 'Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili', lle mae'r etholaethau sydd wedi'u paru yn rhedeg o'r gogledd i'r de i raddau helaeth gyda chyfuchliniau'r cymoedd, gan barchu cysylltiadau a chymunedau lleol, a pheidio â'u rhannu fel y byddai paru o'r dwyrain i'r gorllewin yn tueddu i'w wneud.
Yn yr un modd, rydym yn cefnogi'r cynnig arfaethedig i baru Casnewydd ac Islwyn, a pharu naturiol a hanesyddol Sir Fynwy a Thorfaen.
Credwn fod y Comisiwn yn gywir hefyd i baru cymunedau agos Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, yn hytrach na gorfodi cyswllt annaturiol rhwng cefn gwlad Bro Morgannwg ac etholaeth o Gaerdydd.
Credwn fod y cyfuniad canlyniadol o ardaloedd Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr fel etholaeth sydd â threftadaeth ddiwydiannol gysylltiedig yn cefnogi cysylltiadau lleol hefyd.
Paru yng Nghaerdydd
Credwn ei bod yn iawn i bedair etholaeth Caerdydd gael eu paru gyda'i gilydd, a bod y Comisiwn wedi cynnig y parau cywir yn y brifddinas.
Mae Dwyrain Caerdydd a Gogledd Caerdydd wedi'u cysylltu'n agosach drwy ddaearyddiaeth â Chasnewydd, Bryste a choridor yr M4 ymhellach i'r dwyrain i Loegr. Mae Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yn tueddu i edrych mwy tua'r gorllewin ar hyd yr M4 a thuag at Abertawe.
Mae cysylltiadau lleol a'r rhwydwaith ffyrdd yng Nghaerdydd, yn enwedig yr A4232, yn cysylltu De Caerdydd a Phenarth yn agosaf â Gorllewin Caerdydd, sy’n wir hefyd am Ddwyrain a Gogledd Caerdydd, gyda'r A48 a'u daearyddiaeth gysylltiedig i'r dwyrain o Afon Taf.
Mae'r bwlch a adawyd gan yr hyn a fyddai wedi bod yn ffordd orbital Caerdydd yr M4/A4232/A48(M) yn gadael Dwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth â chysylltiad gwael drwy ffordd unol Rover Way. Mae safle gwastraff Ffordd Lamby ac Afon Rhymni’n cyfrannu at gysylltedd cymharol wael rhwng y ddwy etholaeth hon yn Senedd y DU hefyd.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.