Sylw DBCC-7745
Rwy o'r farn y byddai buddiannau'r iaith Gymraeg ar eu hennill o gyfuno Gogledd a Gorllewin Caerdydd.
Y ddwy rhan yma o'r ddinas yw'r ardal lle y mae'r defnydd o'r Gymraeg ar ei uchaf, fel a adlewyrchir yn safle ysgolion Glantaf a Phlasmawr, a'r ysgolian cynradd sy'n eu bwydo. Rwy wedi bod ynghlwm a'r ddwy ysgol fel rhiant ac aelod o staff. Rwy'n teimlo y byddai cael cynrychiolaeth ar y cyd i'r ddwy rhan hon o Gaerdydd yn hwb mawr i'r iaith Gymraeg yn y dyfodol. Rydym eisoes yn ystyried nodweddion ieithyddol wrth gynllunio cymunedau yng nghadarnleodd traddodiadol y Gymraeg (Gogledd a Gorllewin Cymru), ond mae'n bwysig ein bod hefyd yn gwneud hyn wrth ystyried Caerdydd, gan mai dyma nawr yw man twf a dyfodol ein hiaith.
Rwy'n awgrymu felly clymu Gogledd a Gorllewin Caerdydd gyda'u gilydd. Fe fyddai hyn yn goygu uno Dwyrain Caerydd a De Caerdydd a Phenarth hefyd, sydd yn gyfuniad rhesymol ac heb greu canlyniadau pellgyrhaeddol ar draws y map ehangach.
Rwy'n atodi map sy'n dangos y wardiau sydd a chanran uwch cyfartaledd Caerdydd o siaradwyr Cymraeg, yn ol cyfrifiad 2021 (wedi'u lliwio'n felyn). Dim ond tair eithriad sydd y tu allan i'r ddwy etholaeth hon.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.