Sylw DBCC-7769
Yng Nghaerdydd, mae’r paru arfaethedig yn gwneud llai o synnwyr na’r na’r dewis amgen Gogledd-Gorllewin a De-Ddwyrain. Yr wyf o blaid ffeirio’r rhain, a gellir gwneud hyn heb unrhyw sgîl-effeithiau.
Yn gyffredinol, mae cymeriad y ddinas yn hollti’n llawer iawn yn fwy ar hyd echel y Gogledd-De na’r Dwyrain-Gorllewin. Mae’r Gogledd - i symleiddio - yn fwy maestrefol, yn rhannol oherwydd iddo dyfu yn hanesyddol dros amser o gyfres o bentrefi (e.e. Radur, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llandâf) o boptu’r Afon Tâf. Mae Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yn ffitio’n fras i’r disgrifiad hwn. Mae gan y De - i symleiddio eto - gymeriad mwy trefol, adeiledig a diwydiannol, gyda’r hen ddociau a chanol y ddinas yn chwarae rhan fawr yn yr esblygu hwn. Unwaith eto, mae De Caerdydd a Phenarth, a Dwyrain Caerdydd yn debyg yn fras yn hyn o beth. O’r herwydd, rwy’n credu y byddai’r cymunedau hyn yn elwa o gyd-gynrychiolaeth yn y Senedd, i adlewyrchu’r elfen bwysig hon o gymeriad cyffredin.
I would also like to draw attention to the fact that the North-West is a stronmghold of the Welsh language and is key to its future. The welsh language would benefit from having joint representation between these two constituencies (Cardiff North and Cardiff West).
Yr wyf o’r farn na fyddai’r gwrthgynnig hwn yn gwaethygu trafnidiaeth yn y ddwy etholaeth arfaethedig - a dweud y gwir, gellid dadlau ei fod yn ei wella, yn enwedig wrth i’r Metro a Chrossrail Caerdydd ddod i fodolaeth.
Fy nghynnig i, felly, yw paru (1) Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd, a (2) De Caerdydd a Phenarth gyda Dwyrain Caerdydd.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.