Sylw DBCC-7777
Mae Maldwyn a Glyndŵr yn etholaeth San Steffan a ffurfiwyd yn ddiweddar. Rwy’n siŵr fod yr AS sydd newydd ei ethol yn dal i geisio dod o hyd i ffyrdd y gall wasanaethu pab rhan o’r etholaeth hon, o gofio’r ffyrdd gwledig a’r cludiant cyhoeddus cyfyngedig. Bydd paru’r etholaeth hon gydag etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn ei gwneud yn amhosib i’w gwasanaethu, nid yn unig oherwydd y cymhlethdodau teithio, ond oherwydd y gwahanol faterion sydd o bwys i bobl yr etholaethau hyn. Yn ddiwylliannol, byddai Ynys Môn, Bangor, a Dwyfor Meirionydd yn baru naturiol, felly hefyd Wrecsam gyda Glyndŵr a Maldwyn. Mae rhan ogleddol M&G eisoes o fewn ardal Cyngor Wrecsam, sydd eto’n cryfhau’r ddadl dros baru gyda’r ardal hon.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.